Part of the debate – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2016.
Gwelliant 5—Simon Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian presennol yr UE i hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn benodol Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy newydd gael ei adeiladu ar safle TATA ym Mhort Talbot i fynd i’r afael â’r mater o gostau ynni uchel, a Horizon 2020, fel y gall canolfan ymchwil a datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws Arloesi Prifysgol Abertawe i wella cyfleoedd busnes TATA UK.