Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae’r Aelodau’n llwyr ymwybodol, dur yw calon fy nhref enedigol ac rwy’n croesawu cyfle arall i drafod dyfodol y diwydiant yma heddiw. Fodd bynnag, heddiw, dylem fod yn trafod sut y gallwn sicrhau dyfodol cynaliadwy drwy weithio gyda’n gilydd i adeiladu amgylchedd economaidd sefydlog a mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu gweithwyr dur, yn hytrach na defnyddio’r diwydiant dur fel esgus ar gyfer croesawu pleidlais i adael yr UE, sef yr hyn yw’r cynnig hwn.
Mae’r gwaith dur ym Mhort Talbot wedi bod yn rhan o’n nenlinell ers dros ganrif ac rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i dra-arglwyddiaethu’r nenlinell am lawer iawn mwy o flynyddoedd i ddod. Mae’r diwydiant dur yng Nghymru—nid yn unig ym Mhort Talbot, gan fod gweithfeydd eraill yng Nghymru—yn rhan hanfodol o’r economi. Ond ni allwn guddio rhag y ffaith fod yna bwysau ar draws Ewrop, sy’n golygu bod y diwydiant dur yn y DU yn dioddef mwy o ansicrwydd mewn gwirionedd, gan beri i’w weithwyr deimlo bod cleddyf Damocles yn hongian drostynt. Mae llawer o fy etholwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn Aberafan yn dal yn ansicr ynghylch dyfodol y gwaith ym Mhort Talbot, a rhaid i ni ymrwymo i weithio i sicrhau’r dyfodol hwnnw a darparu sicrwydd mawr ei angen. Gwn fod yna gyfarfod o fwrdd Tata yn Mumbai ddydd Gwener a fydd yn sicr o effeithio ar beth fydd y dyfodol yno.
Mae amrywiaeth o ffactorau wedi arwain at filoedd o swyddi’n cael eu colli yn y sector ar draws y DU a chollwyd dros fil mewn gwirionedd yn fy etholaeth i—ni allwn anghofio’r contractwyr a gweithwyr y gadwyn gyflenwi hefyd yr effeithir arnynt yn sgil yr argyfwng dur. Un ffactor pwysig fu’r mewnforion rhad, ond nid yn unig o Tsieina: dônt hefyd o Dwrci a Rwsia. Fel y gwyddom, mae’r UE wedi cael dulliau o roi tariffau ar ddur a fewnforir i fynd i’r afael â dympio, ac maent wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Soniwyd mai dim ond 16 y cant sydd ganddynt, ond gadewch i ni atgoffa ein hunain na wasgodd Llywodraeth y DU am newid i’r gyfradd is o dollau; mewn gwirionedd fe wnaethant ei rwystro. Mae hynny’n rhywbeth mae angen i ni fynd i’r afael ag ef. Efallai y bydd y ffaith ein bod yn mynd i adael yr UE yn diddymu’r rhwystr ar y gyfradd is o dollau mewn gwirionedd, ond ni fydd yn berthnasol i ni; bydd yn berthnasol yn ein herbyn, o bosibl, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n rhaid i ni ei wylio. Felly, peidiwch â rhoi’r bai ar yr UE am hynny, rhowch y bai ar Lywodraeth bresennol y DU.
Fel y dywedais, o ganlyniad i adael yr UE, efallai y byddwn yn ddarostyngedig i’r tariffau hynny yn y dyfodol, yn enwedig os na all y DU gytuno ar gytundeb ar gyfer y farchnad sengl, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n amlwg dan sylw ar hyn o bryd. Bydd hyn yn effeithio ar bris tunnell o ddur a byddwch yn cofio bod Port Talbot mewn gwirionedd yn allforio traean o’i farchnad i’r UE. Felly, mae honno’n effaith drom iawn arnom os bydd yn rhaid i ni dalu costau ychwanegol.