5. 4. Dadl UKIP Cymru: Effaith Refferendwm yr UE ar Tata Steel

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:14, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwy’n derbyn y pwynt fod y bunt yn is, felly mae’r allforion yn rhatach ac o bosibl yn fwy deniadol i brynwyr, ond wrth gwrs, rydym yn prynu deunyddiau crai mewn doleri, ac mae’r bunt wedi suddo fel plwm i bwynt is nag y gwnaeth ers 31 o flynyddoedd yn erbyn y ddoler, felly mae’r canlyniadau sydd gennym, yn ôl pob tebyg efallai, yn sefyllfa waeth, nid yn sefyllfa well o reidrwydd.