Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Yn yr un modd â Hannah, rwyf am bwysleisio’r darlun ehangach yng Nghymru mewn perthynas â dur a’r angen i gefnogi’r diwydiant dur yn y dyfodol, Ddirprwy Lywydd, oherwydd, yn amlwg, yn fy ardal i, yng Nghasnewydd, mae gennym waith Tata yn Llanwern, mae gennym waith Orb, sy’n rhan o Tata Steel, a hefyd Liberty a nifer o weithredwyr llai yn ogystal. Felly, mae dur yn dal yn bwysig iawn i Gasnewydd a’r economi ranbarthol o’i hamgylch. Rwy’n credu ei bod yn amlwg o’r ddadl rydym wedi’i chael yma eisoes heddiw fod effeithiau gadael yr UE ym marn y mwyafrif yn gwneud bywyd yn fwy anodd, yn fwy o straen ac yn fwy pryderus i’r diwydiant dur a gweithwyr dur yng Nghymru. Dyna pam rwy’n falch fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny ac yn ei roi yng nghyd-destun—yn dilyn gadael yr UE—yr angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio’n agosach byth gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag anghenion y diwydiant dur yng Nghymru. Felly, er bod geiriad y cynnig hwn yn canolbwyntio ar Bort Talbot, gwyddom yn iawn fod Port Talbot wedi ei integreiddio â’r gweithfeydd dur Tata eraill yng Nghymru, ac mae’n rhaid i ni edrych ar y darlun cyfannol os ydym yn mynd i wneud y gwaith mewn perthynas â dur yng Nghymru y mae pobl Cymru, a gweithwyr dur yn arbennig, yn disgwyl i ni ei wneud.
O ran Casnewydd, Ddirprwy Lywydd, rwy’n credu ein bod wedi cael perthynas waith gynhyrchiol iawn gyda Llywodraeth Cymru dros gyfnod o amser. Yn ddiweddar, ymwelais â gwaith dur Llanwern gyda’r Prif Weinidog. Roedd yn eithaf amlwg fod yna berthynas waith dda. Mae cynnyrch o ansawdd da iawn yno yn Llanwern, fel y mae safle Zodiac, er enghraifft, yn ei ddangos, gwaith sy’n cynhyrchu dur o ansawdd uchel iawn ar gyfer y diwydiant ceir. Ac yn yr un modd, mewn ymweliad diweddar â gwaith Orb, roeddent yn gwbl glir fod ganddynt berthynas waith dda gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n ymwneud â chymorth ar gyfer buddsoddi, cymorth ar gyfer prosesau newydd, ac yn wir, datblygu sgiliau, ac maent am weld y berthynas honno’n cael ei chryfhau a’i datblygu yng ngoleuni’r sefyllfa newydd a’r pryderon newydd. Ac yn enwedig yn achos Liberty, ar ôl ymweld â’r safle yr wythnos o’r blaen, maent, wrth gwrs, yn rhan o’r broses geisiadau ar gyfer Tata Steel, ond mae ganddynt weithrediadau annibynnol hefyd yng Nghasnewydd sy’n ymgorffori datblygiad ynni yn ogystal â dur. Maent yn uchelgeisiol; maent yn gwmni rhyngwladol gydag adnoddau go iawn. Ganddynt hwy y mae’r orsaf bŵer glo bresennol yn Aber-wysg, a byddent yn hoffi ei throi’n orsaf biomas. Maent yn rhan o’r consortiwm sy’n dymuno datblygu morlynnoedd llanw yn Abertawe, wrth gwrs, ac yng Nghasnewydd a Chaerdydd, a gallai’r ynni y gallai’r morlynnoedd hyn ei gynhyrchu fod yn rhan bwysig o’u cynlluniau cyffredinol. Maent yn ei ddisgrifio fel ‘dur gwyrdd’, Ddirprwy Lywydd, ac mae’n ymwneud â chynhyrchu ynni i ddiwallu’r anghenion ynni mawr sy’n gysylltiedig â dur. Mae’n ymwneud ag ailgylchu sgrap a dod â ffwrneisi arc trydan i’r safle yng Nghasnewydd o bosibl er mwyn darparu’r cyfleuster ar gyfer prosesu’r metel sgrap.
Felly, o roi hynny i gyd at ei gilydd, yr hyn y gofynnent amdano—a dyma oedd eu ple i mi, mewn gwirionedd—oedd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyfleu’r neges i weinyddiaeth y DU eu bod angen i benderfyniadau pwysig gael eu gwneud yn amserol, mewn perthynas â’r anghenion ynni hynny er enghraifft, o ran y newid i fiomas yng ngwaith pŵer Aber-wysg, ac o ran penderfyniadau ar y morlynnoedd llanw. Maent yn ddiamynedd yn eu hawydd i weld cynnydd ar y penderfyniadau hyn ac rwy’n deall y diffyg amynedd hwnnw’n iawn. Hoffwn ddweud heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn y cyd-destun presennol, gyda’r holl ansicrwydd, y gallem gael mwy o sicrwydd ar y ffordd ymlaen pe baem yn cael penderfyniadau amserol a chywir, wyddoch chi, ynglŷn â’r cwestiynau ynni hynny. Rwy’n gobeithio’n fawr fod Llywodraeth y DU yn gwrando ac y bydd yn gweithredu ar fyrder.