Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Rwy’n synnu at ei sylw am gronfeydd pensiwn. Mae Ffrainc a’r Unol Daleithiau wedi cael eu hisraddio o statws AAA—ychydig iawn o economïau AAA sydd i’w cael. Yn sicr, yr un peth y gwyddom yw bod allforion o’r gweithfeydd hyn bellach 10 y cant yn rhatach nag yr oeddent bythefnos yn ôl. Clywsom gan Bethan fod dwywaith a hanner yn fwy o allforion na mewnforion. Yn sicr, mae hynny eisoes wedi gwella cystadleurwydd a dyna pam y mae ein cynnig yn un difrifol iawn—dylid ei drin felly.