5. 4. Dadl UKIP Cymru: Effaith Refferendwm yr UE ar Tata Steel

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:38, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod wedi anwybyddu dro ar ôl tro y ffaith fod deunyddiau crai a fewnforir o dramor hyd yn oed yn fwy drud yn awr a bydd yn mygu twf yn y sector hwn. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny; nid oes unrhyw fudd net. Mae yna hefyd, fel y nododd yr Aelodau eisoes—Bethan Jenkins, Dai Lloyd ac eraill—eironi Shakespearaidd trasig yn yr hyn y mae Aelodau UKIP wedi ei ddweud heddiw a’r hyn y maent wedi ei wneud mewn gwirionedd yn y gorffennol, lle maent heddiw wedi honni y bydd tariffau amddiffynnol yn wych ar gyfer y diwydiant dur, ond yn y gorffennol, pan oedd ganddynt gyfle i gyflwyno tariffau a fyddai’n ffafrio ein diwydiant dur, fe wnaethant y gwrthwyneb yn llwyr. Gallai sinig amau ​​bod UKIP yn y gorffennol wedi mynd ati’n fwriadol i danseilio’r diwydiant dur er mwyn gwneud elw gwleidyddol o’r ansicrwydd yr arweiniai hynny ato.

Rwy’n credu y byddai aelodau o’r cyhoedd yn gywir yn amau ​​unrhyw wleidydd sy’n dweud yn derfynol, ‘Mae hyn yn wych’ neu ‘Mae hyn yn enbyd.’ Gadewch i ni ei adael i’r arbenigwyr. Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf yn unig, cyhoeddodd UK Steel eu maniffesto, sy’n agor gyda datganiad go glir:

Roedd canlyniad Refferendwm yr UE yn ergyd i’r diwydiant dur.

Yn fy marn i, nid gadael yr UE yw’r ffordd orau o ddatblygu diwydiant dur Prydain, ond gallaf eich sicrhau o hyn: mae’r bobl wedi siarad ac fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau dyfodol diogel. Rydym yn gweithio’n ddiflino i gefnogi’r broses werthu a’r cymunedau dan sylw, a byddwn yn parhau i roi pob adnodd sydd gennym fel Llywodraeth tuag at y diben hwnnw. Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio’r neges hon yn gyson ac yn uniongyrchol wrth uwch-arweinwyr Tata yn Ewrop ac yn Mumbai, yn ogystal ag ar y lefelau uchaf o Lywodraeth San Steffan. Byddwn yn parhau i bwysleisio’r neges hon. Yn wir, mae’r dirprwy ysgrifennydd parhaol, fy swyddog uchaf, yn hedfan allan i gyfarfod y bwrdd ddydd Gwener i gyfleu ein safbwynt yn y termau cryfaf posibl.

Serch hynny, mae canlyniad y refferendwm a newidiadau Llywodraeth y DU yn codi cwestiynau pwysig am y dyfodol. Mae’n hanfodol nad yw ansicrwydd arweinwyr ar lefel Llywodraeth y DU yn effeithio ar eu hymrwymiad datganedig i wneud popeth a allant i sicrhau dyfodol ein diwydiant dur. Rwy’n gobeithio nad yw sylw Whitehall ar ddyfodol ein gweithfeydd dur yma yng Nghymru wedi llacio o ganlyniad i ddigwyddiadau diweddar, ac na fydd yn gwanhau nac yn dod i ben. Un o’n blaenoriaethau allweddol yw cadw’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn weithredol, ond yr un mor bwysig yw sicrhau bod Port Talbot yn parhau i fod yn brif gyflenwr dur i safleoedd eraill Cymru, yn ogystal ag i Hartlepool ac i Corby.

Soniodd Hannah Blythyn am fater pwysig diogelu ein holl safleoedd dur, a hoffwn ei chanmol am y gwaith y mae wedi ei wneud yn cynrychioli gweithwyr ar safle Shotton. Hefyd, roedd Hannah Blythyn, yn gwbl briodol, yn tynnu sylw at y ffaith y byddai cryn ansicrwydd yn cael ei achosi yn ystod y broses o drafod cytundeb fframwaith newydd, a allai gymryd degawd neu fwy—ansicrwydd ac wrth gwrs, fel y dywedais eisoes, pryder i’r rhai a gyflogir yn y diwydiant dur.

Rydym yn aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Tata ar sut y mae’n dod yn ei flaen gyda’r broses werthu, ac rydym yn parhau’n barod i gefnogi unrhyw gynigwyr a fydd yn sicrhau bod swyddi a chynhyrchiant dur cynaliadwy yn aros yng Nghymru. Mae ein cynnig o gymorth yn parhau i fod ar y bwrdd, ond ni allwn ystyried manylion unrhyw gynnig penodol hyd nes y cyrhaeddwn y cam nesaf pan fydd gennym fwy o eglurder ynghylch cynlluniau cynigydd. [Torri ar draws.] Buaswn yn hoffi, ond mae’n ddrwg gennyf.

Tra bo Tata yn parhau i roi ystyriaeth ddyladwy i’r mater, mae’n fwy hanfodol nag erioed o’r blaen, fel y dywedodd Russell George ac fel y dywedodd John Griffiths, fod Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda ni, y diwydiant dur, undebau llafur dur a phartneriaid eraill i ennyn hyder ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i greu’r amgylchedd busnes cywir a fydd yn cynnal diwydiant dur cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig. Fis diwethaf, mynychais gyngor dur Llywodraeth y DU. Mae gan y cyngor bedwar grŵp sy’n gweithio dan arweiniad y diwydiant i ystyried, nid yn unig sut rydym yn ymateb i’r argyfwng dur presennol, ond hefyd sut i alluogi cynaladwyedd hirdymor cynhyrchu dur yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae gennym ein tasglu dur ein hunain hefyd. Byddaf yn cadeirio cyfarfodydd y tasglu yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y momentwm a’r bartneriaeth gadarnhaol sy’n cael ei datblygu i gefnogi gweithwyr. A byddwn yn falch o roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau yn yr wythnosau nesaf ar y cynnydd a wnaed.

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo’n dda ar gryfhau ein polisi caffael, a fydd yn egluro pwysigrwydd agor cyfleoedd i gyflenwyr dur yn y DU. Bu cynnydd, hefyd, ar ardal fenter glannau Port Talbot sydd newydd ei sefydlu, ac a gynhaliodd ei gyfarfod cyntaf fis diwethaf. Bydd y bwrdd yn datblygu ei strategaeth drwy adeiladu ar y sgiliau gweithgynhyrchu uwch o’r radd flaenaf a’r dreftadaeth weithgynhyrchu gref. Bydd yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, entrepreneuriaeth wedi ei gyrru gan arloesedd, gan gynnwys cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r brifysgol a dinas-ranbarth Bae Abertawe, fel yr amlinellwyd gan fy ffrind a fy nghyd-Aelod, Dai Rees.

Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Tata Steel a chynrychiolwyr y diwydiant dur yng Nghymru a’r DU i ailadrodd bod Cymru, fel gwlad, wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy. Disgwyliwn i’r holl rai rydym yn ymgysylltu â hwy i wneud eu gorau glas i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Er gwaethaf canlyniad y refferendwm, mae Cymru ar agor i fusnes—ac rwy’n benderfynol o’i chadw felly, ac rwyf yr un mor benderfynol o adeiladu dyfodol disglair i’n diwydiant dur hefyd.