Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr. Wel, rhaid i mi ddweud bod llawer wedi cael ei ddweud yn y Siambr hon am yr angen i gadw hyder yn economi Cymru ac economi Prydain. Wel, yn ystod y pythefnos diwethaf ers pleidleisio dros adael yr UE, ni fyddai gan neb a fu’n gwrando ar y sylwadau yn y Siambr hon unrhyw hyder o gwbl yn ein gallu fel cenedl i gynnal economi dda a hyderus sy’n ehangu.
Afraid dweud ein bod i gyd yn gresynu at yr ansefydlogrwydd mewn perthynas â gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot a’r canlyniadau a fyddai’n deillio o’i gau, nid yn unig i weithwyr a’u teuluoedd, ond i economi ehangach Port Talbot yn ei chyfanrwydd. Ond teimlaf fod yn rhaid gwneud pwynt yma fod y Blaid Lafur yn hwyr iawn yn dod at y frwydr i achub swyddi yn y diwydiant dur, yma yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol. O dan y Llywodraeth Lafur ac wrth gwrs, tra roeddem yn y DU—yr UE—collodd y DU oddeutu—[Torri ar draws.] Collodd y DU oddeutu 33,000 o swyddi yn y diwydiant dur, gan ddisgyn o 68,000 pan ddaeth Llafur i rym yn 1997 i tua 35,000 pan adawsant yn 2010, gan gynnwys gostwng o 17,000 i 7,000 yng Nghymru yn yr un cyfnod. [Torri ar draws.] Na, mae’n ddrwg gennyf. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Yn hytrach na helpu diwydiant dur Prydain, rwy’n awgrymu bod ein presenoldeb yn y prosiect gwleidyddol Ewropeaidd wedi bod yn anfantais enfawr i’r diwydiant.
O dan reolau caffael yr UE, er enghraifft, bydd 100 o gerbydau ymladd Ajax newydd y Fyddin Brydeinig yn cael eu hadeiladu yn Sbaen gan ddefnyddio dur o Sweden. Roedd hyn ar gais Brwsel, a ddefnyddiodd grantiau’r UE er mwyn cynnal swyddi yn Sbaen. [Torri ar draws.] Gallwn gyfrif—[Torri ar draws.] Gallwn gyfrif nifer o achosion o’r fath. Ers ymuno â’r Undeb Ewropeaidd rydym bron iawn â cholli rhannau helaeth o’n diwydiannau gweithgynhyrchu—adeiladu llongau, adeiladu trenau a cherbydau, mae’r diwydiant cemegol yn dirywio’n derfynol, mae tecstilau mewn argyfwng, ac mae’r diwydiant pysgota a ffermio bron iawn â bod wedi dirywio’n llwyr.
Mae’r Prif Weinidog wedi datgan sawl gwaith, os cofiaf yn iawn, pa mor lân yw ein hafonydd a’n traethau o ganlyniad i ddeddfwriaeth amgylcheddol yr UE. Wel, mae’n ddrwg gennyf hysbysu’r Prif Weinidog nad oes ganddo ddim i’w wneud â rheoliadau’r UE; y rheswm am hynny yw nad oes gennym ddiwydiannau i’w llygru bellach. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’] Rydym wedi clywed hyd syrffed gan Aelodau’r Cynulliad hwn am y trychineb a ddaw i ran economi Cymru os na chawn arian grant.