Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Credaf fod y materion a godwyd gan aelod Plaid Cymru o bosibl yn rhai pwysig. Mae tryloywder yn hollbwysig. Nawr, rydym ni’n gwybod bod lobïo yn bodoli mewn gwirionedd, mewn cylchoedd gwleidyddol, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn gyfreithlon, ac mae angen i ni wybod pwy sy'n lobïo pwy ar adegau. A oes unrhyw gynlluniau i sefydlu cofrestr o lobïwyr yma ym Mae Caerdydd?