Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Wel, mae’r rhwydwaith newyddenedigol yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddarparu staffio hyblyg, ymatebol i ddiwallu anghenion newidiol ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol arbenigol ac i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion o ran lefelau staffio. Er mwyn cefnogi datblygiad ein gweithlu, rydym wedi cyhoeddi pecyn buddsoddi gwerth £85 miliwn mewn addysg a hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, gan gynnwys staff newyddenedigol. Ac, wrth gwrs, bydd canfyddiadau adroddiad Bliss yn cael eu defnyddio gan y rhwydwaith newyddenedigol i helpu pob uned i fyfyrio ar unrhyw newidiadau ar gyfer y dyfodol, a chynllunio ar eu cyfer.