Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Rwy’n gwerthfawrogi’r ateb manwl yna, ac mae'n fap ffordd o ryw fath. Ond rwy’n credu mai un peth a fyddai wir yn cael ei werthfawrogi fyddai gwybod sut, yn y Cynulliad hwn, y byddwn yn mesur eich llwyddiant—gan fynd o 20 y cant i 50 y cant o unedau â digon o staff, neu, yn wir 100 y cant o unedau â digon o staff. Oherwydd yr hyn sy'n allweddol yma yw nodi’r ffordd i lwyddiant, o ran cynyddu’r niferoedd yn yr unedau newyddenedigol. Felly, a allwch chi roi amserlen i ni pan fydd y sgript yr ydych chi’n ei ddarllen yn y fan yna yn cael ei weithredu mewn gwirionedd a pha bryd y byddwn ni’n gweld mwy o staff yn yr unedau newyddenedigol yn darparu’r gwasanaeth hanfodol hwnnw?