Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Wel, rwy’n disgwyl i’r niferoedd hynny gynyddu yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac rwy’n disgwyl i bob uned newyddenedigol gael ei staffio’n briodol yn y cyfnod hwnnw. Mae'n wir i ddweud bod recriwtio wedi bod yn her; bydd yn parhau i fod yn her yng ngoleuni'r bleidlais bythefnos yn ôl. Ond byddwn yn parhau i ddweud wrth y rhai sydd eisiau dod i weithio yng Nghymru bod croeso iddyn nhw, yn ogystal, wrth gwrs, â cheisio hyfforddi arbenigwyr newydd ein hunain.