<p>Addysg Oedolion</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:55, 12 Gorffennaf 2016

Mae yna bryder difrifol ymhlith oedolion sy’n dysgu Cymraeg ledled y wlad oherwydd y gyfundrefn newydd, sydd wedi arwain at golli swyddi ymhlith tiwtoriaid lleol. Yn barod, mae yna nifer sylweddol o staff profiadol sydd wedi cael ei ddiswyddo yn Abertawe, a nifer pellach yn wynebu colli swyddi yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yng Ngheredigion. Mae yna ansicrwydd mawr yn y maes ar ôl i’r Llywodraeth fethu ag ymrwymo i ariannu cwrs Cymraeg i oedolion ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac, fel rydych chi’n gwybod, mae cyllideb cyrsiau Cymraeg i oedolion eisoes wedi cael ei thorri bron £3 miliwn. Os ydy toriadau ar y raddfa yma yn mynd i barhau, onid ydych chi’n teimlo bod hynny’n mynd i weithio yn erbyn uchelgais eich Llywodraeth chi i gynyddu nifer y siaradwyr i 1 filiwn?