Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Mae wedi bod yn anodd dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf; mae hynny’n iawn. Ond hefyd rydym ni wedi sicrhau bod yna lefydd newydd wedi cael eu hagor ar draws Cymru—o Bontardawe, er enghraifft, a Llanelli i’r brifddinas—er mwyn sicrhau bod yna lefydd lle mae pobl yn gallu mynd a defnyddio’r Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw’r Gymraeg rhagor yn iaith yr heol neu iaith gymdeithasol gyffredinol. Rwy’n gwybod bod llefydd fel Y Lle yn Llanelli, er enghraifft, wedi bod yn llwyddiannus dros ben wrth sicrhau bod pobl yn gallu dysgu Cymraeg a hefyd defnyddio Cymraeg fel nad ydyn nhw’n colli’r iaith ar ôl ei dysgu.