Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Wel, diolch ichi am eich ateb—ateb diddorol iawn, os caf i ddweud, oherwydd mi wnaeth eich Gweinidog sgiliau chi, mewn ymateb i gwestiwn gen i ar ôl ei datganiad yr wythnos diwethaf, ei gwneud yn glir ei bod hi yn parhau i ddatblygu cynlluniau ar y sail bod yr arian yn dod i Gymru. O na ddaw o’r Undeb Ewropeaidd, mae hi’n disgwyl i’r arian ddod, yn ôl yr addewidion, o Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond, y diwrnod wedyn, mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet materion gwledig gyhoeddi bod rhaglenni megis Glastir, ar ôl 2018, yn cael eu gohirio oherwydd yr ansicrwydd. Mae hynny’n awgrymu i mi bod fawr o strategaeth gennych chi fel Llywodraeth ynglŷn â’r ffordd rydych chi’n ymateb i’r penderfyniad yn dilyn y refferendwm. A allwch chi ddweud wrthyf os ydy’r llaw dde yn gwybod beth y mae’r llaw chwith yn ei wneud?