Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Rydym yn gwybod beth rydym yn ei wneud. Rydym yn mynd i barhau gyda phrosiectau cyfalaf, er enghraifft, er mwyn symud ymlaen â’r rheini. Gyda’r prosiectau sy’n defnyddio refeniw, mae’r sefyllfa yn fwy cymhleth. Ond, mae’n hollol amlwg; os gwelwn ni doriad o £600 miliwn yng nghyllideb y Cynulliad, bob blwyddyn, dros y blynyddoedd nesaf, bydd effaith negatif iawn ar rai o’r prosiectau sydd gyda ni.