<p>Gwella Seilwaith yn Ne-ddwyrain Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

O ran dyfrffyrdd, rwy'n credu ei fod yn fwy o achos o’u potensial ar gyfer twristiaeth. Rhannwyd y dyfrffyrdd ddegawdau lawer iawn yn ôl. Mae camlas Morgannwg—mae’n mynd o dan y brif reilffordd i’r dwyrain o Gaerdydd ond nid yw wedi ei chysylltu â gweddill ei rhwydwaith blaenorol. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y potensial gennym ni ar gyfer twristiaeth trwy ein camlesi, ac yn y modd hwnnw, wrth gwrs, gallant weithredu fel sbardunwyr economaidd, a byddwn yn parhau i weithio â'r rhanddeiliaid dan sylw i sicrhau bod y potensial hwnnw’n cael ei wireddu.