Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Diolch, Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am amlinellu’r gyllideb atodol. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn ei nodi ac yn cytuno mai prif bwrpas y gyllideb atodol hon oedd ailstrwythuro yn sgil y newid ym mhortffolios Gweinidogion y Llywodraeth yn sgil yr etholiad. Hoffwn, serch hynny, dynnu sylw’r Cynulliad at yr adroddiad rydym wedi ei baratoi ac at dri pheth sy’n deillio o benderfyniadau mwy gwleidyddol, os liciwch chi, gan y Llywodraeth.
Yn gyntaf oll, mae rhai ohonoch chi a fuodd yn y Cynulliad diwethaf yn cofio’r anghytuno a fu dros doriad sylweddol yn yr arian ar gyfer cyngor cyllido addysg uwch. Fe wnaed addewid bryd hynny i ddarparu £10 miliwn yn ychwanegol o gyllid i gyllideb y cyngor cyllido. Mae’r gyllideb atodol yn adlewyrchu hynny, gyda £5 miliwn yn mynd ar gyfer darpariaeth astudiaethau rhan amser a £5 miliwn ar gyfer ymchwil. Yn ogystal, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei nodi, mae yna ddyraniad o £7.7 miliwn ar gyfer costau etholiad y Cynulliad. Wrth graffu ar y gyllideb, fe sicrhaodd y Pwyllgor Cyllid fod pob ymdrech wedi cael ei wneud i arbed costau gan, wrth gwrs, gynnal etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throsedd ar yr un pryd. Cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw’r etholiadau hynny. Os cawn ni etholiad cyffredinol yn sydyn, cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan fydd y costau hynny hefyd. Ond o fwrw golwg at y dyfodol, rydym am gadw’r costau mor isel â phosibl ac yn edrych ymlaen at fwy o waith gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig o safbwynt cyflogau rhai o’r swyddogion sydd yn gyfrifol am etholiadau yng Nghymru.
A’r pwynt olaf sydd wedi cael ei grybwyll, wrth gwrs, yw bod y pwyllgor wedi nodi bod £1.5 miliwn wedi ei ddyrannu yn y gyllideb i gynllun rhyddhad ardrethi busnes yn ardal fenter glannau Port Talbot. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r rheswm dros y penderfyniad yma—y bygythiad, wrth gwrs, i waith Tata yn y dref honno—ond roeddem o’r farn ein bod yn chwilio am fwy o dystiolaeth yn y pen draw i nodi’r rhesymeg tu ôl i ddyraniadau o’r fath, ac yn gobeithio’n fawr iawn y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd iddo amdani yn y pwyllgor maes o law. Rwy’n credu y bydd hynny yn y pen draw yn helpu Aelodau Cynulliad a phobl Cymru i graffu ar raglenni o’r fath o ran eu llwyddiant a’u gwerth am arian.
Felly, er bod y pwyllgor wedi ei gasglu ynghyd ar fyr rybudd braidd i ystyried y gyllideb atodol, roeddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i drafod hynny ac yn teimlo bod y gyllideb yn dilyn protocol y cytunwyd arno yn flaenorol gan y Gweinidog Cyllid a’r Pwyllgor Cyllid blaenorol. Felly, rydym yn nodi y gyllideb ac yn nodi, yn wir, mai cyllideb dechnegol yn dilyn symud portffolios yw hi yn y bôn.