Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Mae pwrpas a natur dechnegol y gyllideb atodol hon eisoes wedi eu nodi—diolch yn fawr i chi; dyna beth yw cydweithio—a chyllideb, fel y clywsom ni, sy’n adlewyrchu newidiadau gweinidogol y Llywodraeth newydd yn bennaf, a chymhwyso’r dyraniadau felly. Felly, byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn cefnogi’r cynnig. Rwy’n credu ein bod ni wedi cael digon o ddrama wleidyddol dros y dyddiau diwethaf, felly nid wyf eisiau ychwanegu ato drwy flocio’r gyllideb atodol yma.
Fe wnaf jest nodi wrth basio—ac fe gododd hyn yn y pwyllgor y bues i yn aelod byrhoedlog ohono—mai rhywbeth cymharol ryfedd, efallai, yw bod yna bolisi wedi cael ei etifeddu o’r Cynulliad blaenorol. Yn dechnegol, wrth gwrs, nid yw’n bosibl i glymu dwylo o un Cynulliad i’r llall, ac ni fyddwn yn cymryd yn ganiataol—os caf ei roi yn dawel fach fel yna—y bydd y chweched Cynulliad o’r un lliw gwleidyddol o ran y Llywodraeth. Felly, er fy mod yn deall y rhesymeg yr oedd y Gweinidog yn sôn amdani—oherwydd bod diffyg amser i weithredu dymuniad y Cynulliad diwethaf—rwy’n credu y dylem ni osgoi sefyllfa yn codi eto lle mae disgwyl i’r Cynulliad nesaf weithredu ar benderfyniadau gwleidyddol y Cynulliad blaenorol. Nid fel yna mae democratiaeth yn gweithio, neu byddai dim pwynt cael etholiadau o gwbl.
Rwy’n credu bod argymhellion y pwyllgor yn synhwyrol iawn. Buaswn yn ategu’r alwad am dryloywder. Mae hefyd y cwestiwn ynglŷn â sail dystiolaethol polisïau. Mae hynny’n rhan, rwy’n credu, o graffu, ac mae’n mynd â ni i gyfeiriad cyllidebau rhagleniadol—neu ‘programme budgeting’—lle rydych chi yn gweld mwy o fanylder na jest y dyraniadau cyffredinol. Rydych yn gweld wedyn, reit lawr i lefel y rhaglenni a’r projectau unigol, lle mae’r adnoddau yn mynd a beth yw nod y gwariant hynny, achos ar ddiwedd y dydd, wrth gwrs, dyna le mae’r ffocws yn mynd. Felly, byddai symud mwy i’r cyfeiriad hynny, rwy’n credu, yn y dyfodol yn ein helpu ni i gyd fel Aelodau Cynulliad i graffu ar benderfyniadau cyllidol y Llywodraeth.
Byddwn hefyd yn croesawu yr un tryloywder ynglŷn â chronfeydd wrth gefn. Roedd rhyw drafodaeth ar hynny yn y pwyllgor hefyd—y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniadau ynglŷn â chronfeydd wrth gefn; mae hynny yr un mor bwysig â’r penderfyniadau ar wariant yn ogystal.
Hoffwn godi un peth bach olaf gyda’r Ysgrifennydd cyllid. Rwy’n deall mai cynnig ac nid datganiad oedd hwn, ond bu cryn dipyn o drafodaeth gan y Cynulliad diwethaf am wendidau’r mecanwaith cyfnewid cyllidebau, yn bennaf fod y dyddiad cau ar gyfer datgan tanwariant i’r Trysorlys ac i benderfynu os bydd angen trosglwyddo unrhyw symiau o un flwyddyn i’r llall yn cwympo mor gynnar yn y flwyddyn ariannol. Mae’n bwysig bod gan Lywodraeth Cymru hyblygrwydd yn hyn o beth, felly hoffwn wybod a ydy Llywodraeth Cymru wedi trafod gyda’r Trysorlys y posibilrwydd o symud y dyddiad cau yma i gyfnod yn hwyrach yn y flwyddyn ariannol.