Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Wel, rydym yn disgwyl i’r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith gael ei ddarparu, ac os nad yw'n cael ei ddarparu, gellir cymryd camau cyfreithiol, wrth gwrs, i unioni hynny. O ran prif ffrydio hawliau, bydd yr ymarferion yr ydym wedi parhau â nhw hyd yn hyn yn parhau. Bydd yr Aelod yn gwybod bod yna nifer o feysydd lle mae’n rhaid rhoi sylw dyledus i hawliau pobl eraill ac, yn wir, i effaith polisïau penodol ar grwpiau penodol. Bydd y broses honno'n parhau yn y dyfodol i wneud yn siŵr nad yw polisïau’n cael unrhyw ganlyniadau annisgwyl sy’n creu anfantais i rai grwpiau mewn cymdeithas.