– Senedd Cymru am 2:52 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Rŷm ni nawr yn symud at yr eitem nesaf, sef y datganiad gan y Prif Weinidog ar flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth. Rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd. Roeddwn i wedi gobeithio bod yma heddiw â chopi ffres o'r rhaglen lywodraethu yn fy llaw. Fodd bynnag, nid yw’n amser gwneud hynny eto gan fod canlyniad y refferendwm Brexit wedi newid pethau’n sylfaenol. Rydym yn wynebu llawer o gwestiynau am y dyfodol ac, yn syml, nid oes gennym yr atebion iddynt. Bydd Brexit yn cael effaith sylweddol iawn ar ein cyllidebau a'n rhaglenni ni. Bydd hyn yn effeithio’n fawr ar ein partneriaid yn y sector addysg uwch, y sector preifat a'r trydydd sector wrth iddynt fapio eu dyfodol. Rydym ni i gyd yn disgwyl am arwydd difrifol o safbwynt negodi Llywodraeth y DU tuag at Brexit ac, yn hollbwysig, am gadarnhad gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru ar ei cholled o ganlyniad i'r ffaith ein bod yn gadael yr UE.
Ni fyddai dim byd yn gwneud mwy i ddwysáu’r ymdeimlad hwnnw o bellter rhwng pobl a'r Llywodraethau sydd yma i'w gwasanaethu na fi’n gwneud addewidion heddiw yr wyf yn gwybod y gallai fod yn anodd i’r Llywodraeth eu cadw. Felly, rwy’n gohirio cyhoeddi ein rhaglen lywodraethu tan fis Medi; erbyn hynny, rydym yn gobeithio y bydd gennym syniad mwy pendant i seilio unrhyw asesiad realistig o'n sefyllfa ariannol arno.
Lywydd, mae cymaint wedi newid ers etholiadau’r Cynulliad hwn ym mis Mai. I lawer ohonom, mae wedi teimlo ar adegau fel pe baem yn byw mewn bydysawd cyfochrog. Mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn enfawr ac, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae goblygiadau’r bleidlais i’r byd go iawn yn dal i fod yn bell iawn o fod yn glir—yn ariannol, yn gymdeithasol, ac o ran lle Cymru yn y byd. Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl benderfynol i gael y fargen orau bosibl i Gymru o'r broses o'n blaen. Mae llawer iawn o waith eisoes ar y gweill i osod sylfeini cadarn ar gyfer cyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Rwy'n falch o'r ffordd yr ydym wedi dod drwy lymder dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi gwneud cymaint ag y gallem i ddiogelu’r gwasanaethau y mae pobl wir yn dibynnu arnynt rhag y gwaethaf o’r storm ariannol sydd wedi ein hamgylchynu. Ond mae dyfroedd garw o’n blaenau o hyd o ran ein cyllid.
Eisoes mae rhai arwyddion economaidd sy’n peri pryder yn deillio o bleidlais yr UE a allai gael sgil effaith ddifrifol ar gyllid cyhoeddus, ac er gwaethaf addewidion cadarn ymgyrchwyr 'gadael', nid oes gennym ddim sicrwydd o hyd gan Lywodraeth y DU y bydd y £600 miliwn y flwyddyn a gawn mewn cyllid yr UE yn parhau i lifo i Gymru ar ôl i’r DU ymadael—a rhaid imi ddweud wrthych yn onest iawn, heb y sicrwydd hwn, rydym yn wynebu twll mawr iawn yn ein cyllidebau yn y dyfodol. Felly, rwy’n galw ar Lywodraeth y DU unwaith eto heddiw i roi'r sicrwydd sydd ei angen arnom ar gyfer pob ceiniog o’r cyllid hwnnw, a fyddai'n rhoi darlun llawer cliriach inni o'r hyn y bydd rhaid inni ei gyflawni o ran yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ym mis Mai. Mae'n amser gwireddu’r addewidion hynny.
Lywydd, ers y bleidlais y mis diwethaf, mae Ysgrifennydd yr economi a mi wedi bod yn gweithio'n agos gyda busnesau Cymru a mewnfuddsoddwyr i roi cymaint o sicrwydd iddynt ag y gallwn. Rydym wedi bod yn gwrando'n astud ar eu pryderon. Mae’r hyn yr ydym yn ei ofyn iddynt yn glir: peidiwch â digalonni, daliwch i fuddsoddi, cofiwch yr holl bethau sy'n gwneud Cymru’n lle gwych i gynnal busnes a daliwch i siarad â ni. Er gwaethaf yr amgylchiadau, rydym yn clywed llawer o negeseuon cadarnhaol, ac rydym yn gobeithio gallu gwneud rhai cyhoeddiadau newydd sylweddol yn fuan iawn. Hoffwn anfon neges gadarnhaol debyg yn ôl heddiw yn seiliedig ar yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan fusnesau yn yr wythnosau diwethaf.
Rydym yn gwybod bod seilwaith yn hanfodol o ran penderfyniadau buddsoddi, ac felly, er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch yr elfen sylweddol o arian yr UE, rwy'n cadarnhau heddiw y byddwn yn bwrw ymlaen â datblygiad y prosiect metro, sydd â chymaint o botensial trawsnewidiol. Efallai na fydd ar yr un ffurf yn union ag o'r blaen. Bydd yn rhaid inni edrych ar fodelau cyllido amgen ac efallai y gwnaiff gymryd mwy o amser i gyrraedd y man lle hoffem ni fod, ond rwy'n credu bod hwn yn arwydd pwysig i gyflogwyr bod Cymru’n dal ar agor i fusnes, yn awyddus i symud ymlaen ac mai dim ond gwella a wnaiff ein cynnig i fuddsoddwyr. Bydd fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd yr economi, yn dweud mwy am hyn yn nes ymlaen.
Felly, oes, mae ansicrwydd, ond byddwn yn parhau i arwain ac yn gwrthod digalonni. Roedd Chris Coleman yn enghraifft wych i ni i gyd pan soniodd am feiddio breuddwydio a pheidio ag ofni’r dyfodol. Byddaf i a’r Llywodraeth hon—a phawb yn y Siambr hon, rwy’n yn amau—yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wireddu ein huchelgais o gyflawni dros Gymru.
Rwy’n dymuno edrych ymlaen at weddill y Cynulliad hwn a nodi'r mesurau cadarnhaol yr ydym yn benderfynol o’u rhoi ar waith dros y pum mlynedd nesaf. Mae pobl Cymru wedi ethol y Llywodraeth hon i wneud gwelliannau gwirioneddol i’w bywydau ac rydym yn mynd i gyflawni hynny. Cawsom ein hethol ar raglen uchelgeisiol â blaenoriaethau clir iawn: darparu mwy o swyddi gwell drwy economi gryfach a thecach; gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus; a chreu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.
Mae Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn lle amrywiol a chymhleth, ond mae disgwyliadau pobl yn syml: bywydau iach, addysg dda, swyddi da, cymunedau cryf a seilwaith sy'n diwallu ein hanghenion. Fel gwlad fechan, mae gennym gryfderau a chyfleoedd nad oes gan lawer o rai eraill. Mae gennym y cyfle i adeiladu ymagwedd tîm cryf ac uno ein rhaglenni i atgyfnerthu’r hyn y mae pobl a chymunedau’n ei wneud drostynt eu hunain, ac adeiladu ar hynny.
Mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn alwad i'r gad. Ni all wneud ein penderfyniadau drosom ni, ond gall ein helpu ni i gydweithio i adeiladu’r Gymru a garem. Rwy’n sicr nad ydym yn ysgogi gwelliant drwy gyhoeddi strategaethau. Rydym yn ysgogi gwelliant trwy weithredu a thrwy arweinyddiaeth gref. Byddaf yn gweithio gyda fy Ngweinidogion dros yr hydref i ddatblygu pedwar polisi trawsbynciol a fydd yn gosod y fframwaith ar gyfer sut yr ydym yn cyflawni ein blaenoriaethau: Cymru ddiogel a llewyrchus; Cymru iach a gweithgar; Cymru uchelgeisiol sy’n dysgu; a Chymru unedig a chysylltiedig. Ni all unrhyw un Gweinidog gyflawni’r blaenoriaethau hynny, ac rwy’n gosod her i ni a'n partneriaid o gydweithio i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o sicrhau newid ym mhob un o'r meysydd hyn ar gyfer pobl Cymru. Byddwn yn gweithio drwy gydol yr hydref i ystyried sut y gallwn gael yr effaith fwyaf a sut y gallwn lapio gwasanaethau o gwmpas pobl ar yr adegau, ac yn y mannau, lle mae eu hangen arnynt.
Lywydd, fel rhan o'n cytundeb i symud Cymru ymlaen gyda Phlaid Cymru, rydym eisoes wedi nodi ein blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y tymor. Er bod y canfed diwrnod yn dod ar ddiwedd mis Awst, rydym wedi bwrw ati ar unwaith ac mae llawer o waith wedi’i wneud. Rydym yn datblygu cynlluniau ym mhob un o'r meysydd hynny y soniais amdanynt ym mis Mai a hefyd ar gyfer y meysydd hynny lle ceir tir cyffredin gyda Phlaid Cymru. Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth eisoes wedi gwneud datganiad am y newidiadau ar unwaith i brentisiaethau er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i 100,000 o brentisiaethau i brentisiaid o bob oed. Bydd y rhain yn sicrhau nad yw oedran yn cyfyngu ar gyfleoedd a’u bod ar gael yn eang.
Rydym wedi gwneud datganiad am ein blaenoriaethau deddfwriaethol, gan ganolbwyntio eto ar y meysydd hynny sy'n cael cefnogaeth eang ar draws y Siambr hon, a pheidio â defnyddio deddfwriaeth oni bai ei bod yn glir mai dyna’r ffordd orau o sicrhau newid. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ynglŷn â sefydlu adolygiad i ddyfodol tymor hir y GIG yng Nghymru. Rydym wedi sefydlu tri phwyllgor cyswllt ar gyfer cyfansoddiad, cyllid a deddfwriaeth. Mae pob un o'r pwyllgorau hyn wedi cyfarfod ac eisoes maent yn dangos gwirionedd fy ymrwymiad i weithio’n agored gyda phobl eraill, gan gydnabod dymuniadau pobl Cymru.
Lywydd, y prynhawn yma, bydd yr Ysgrifennydd iechyd yn gwneud datganiadau pellach am y cynlluniau ar gyfer cronfa driniaeth newydd a fydd yn cael gwared ar amrywiaeth o ran mynediad at gyffuriau arloesol, newydd, drud. Bydd yr Ysgrifennydd addysg yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer gwasanaeth addysg sy’n hunan-wella y prynhawn yma, a fydd yn cynnwys ein hymrwymiad i gynyddu buddsoddiad mewn ysgolion. Mae'r cynlluniau hyn yn dangos sut y byddwn yn sicrhau bod iechyd, swyddi ac ysgolion yn ganolog i’n cynlluniau ar gyfer y Llywodraeth, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau am yr ymrwymiadau eraill maes o law. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn bwrw ymlaen â’r rhaglen y cytunwyd arni gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd yn cynnwys gwneud Kirsty Williams yn Ysgrifenydd addysg. Bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y strategaethau y byddwn yn eu datblygu dros yr hydref. Mae pob un o'r blaenoriaethau hyn yn arwydd clir fel crisial bod hon yn Llywodraeth sy’n agored i'r syniadau gorau yng Nghymru, o ble bynnag y dônt, os gallant wneud cyfraniad go iawn at ein nodau.
Lywydd, rwyf wedi ei gwneud yn glir fy mod yn dymuno i'r Llywodraeth hon, a'r Cynulliad hwn, fod yn wahanol. Roedd ethol cadeiryddion pwyllgorau’n symudiad cyflym a chalonogol at fod yn agored, a hoffwn inni barhau yn yr ysbryd hwn. Mae hon yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i weithio ar y cyd a gweithio’n arloesol fel yr unig ffordd o fodloni dyheadau pobl Cymru. Gyda'n gilydd gallwn adeiladu Cymru sy'n fwy hyderus, yn fwy cyfartal, yn fwy medrus ac yn fwy cydnerth. Fel gwlad, rydym wedi anelu’n uchel ac yn awr rydym yn barod i wneud mwy. Hoffwn weld Cymru sy'n ffyniannus ac yn ddiogel, yn iach ac yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig. Dyma’r Gymru yr ydym yn benderfynol o’i chreu dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r angen am arweinyddiaeth gadarn i Gymru’n hollbwysig. Yn ogystal â goruchwylio'r ymateb cenedlaethol i Brexit, mae hyn yn cynnwys llywodraethu mewnol ein gwlad ei hun. Mae'n cynnwys yr angen i lunio rhaglen lywodraethu a hefyd yr angen i ailasesu blaenoriaethau gwario yng ngoleuni’r posibilrwydd y bydd rhaglenni ariannu'r UE yn dod i ben ymhen ychydig dros ddwy flynedd. Mae Plaid Cymru’n derbyn y rhesymeg y tu ôl i ohirio’r rhaglen lywodraethu hon.
Brif Weinidog, rydym eisoes wedi gweld neithiwr a’r wythnos diwethaf nad oes llinell na chadwyn glir o gyfathrebu, heb sôn am gadwyn awdurdod, rhwng Llywodraeth Cymru Llafur ac Aelodau Seneddol Llafur yng Nghymru. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw: beth yw blaenoriaethau eich Llywodraeth chi ar gyfer y cyfansoddiad? Mae cydweithredu wedi bod yn bosibl erioed yma yn y Cynulliad, ac mae gennym dir cyffredin amlwg ar bwerau uniongyrchol y gellid eu trosglwyddo o San Steffan i Gymru, ond man gwan Cymru fel cenedl yw agwedd ac ymddygiad ASau y Blaid Lafur o Gymru yn San Steffan. Maent yn rhwystro rhaglen a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. A wnewch chi, felly, gynnwys fel blaenoriaeth i’r Llywodraeth yr angen i sefydlu rhyw fath o arweinyddiaeth dros ASau Llafur yn San Steffan? A wnewch chi o leiaf eu cynghori i fod yn bresennol mewn pleidleisiau ar Fil Cymru a phleidleisio yn unol â budd cenedlaethol Cymru bob amser? Os na allwch chi arwain yr ASau hynny, neu os ydynt yn rhy brysur yn ymladd ymysg ei gilydd ac yn erbyn arweinydd eu plaid eu hunain, pa gynllun arall sydd gennych i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU a'r broses ddeddfu yn San Steffan?
Rwy’n fwy cadarnhaol o ran blaenoriaethau uniongyrchol y Llywodraeth yn deillio o'r trafodaethau a ddilynodd fy enwebu ar gyfer swydd y Prif Weinidog, a'r bleidlais ddilynol. Roedd y cytundeb a gawsom ar adolygu'r broses ceisiadau am gyllid i gleifion unigol i’w groesawu a gallai wir wella bywydau pobl. Roedd yn dilyn, wrth gwrs, gwadiad ar eich rhan chi yn ystod yr etholiad mai dyma oedd y ffordd orau o symud ymlaen. Rwy’n gwybod y bydd datganiad y prynhawn yma am y mater hwn, ac rwy’n croesawu’r ffaith y bydd y gronfa triniaethau newydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth yn awr, felly a yw’r Prif Weinidog nawr yn derbyn bod pryderon cleifion wrth geisio cael mynediad at gyffuriau a thriniaethau prin yn bryderon dilys ac y gellir ymdrin â hwy yn awr?
Afraid dweud y dylai’r economi hefyd fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Ar yr adeg hon o ansicrwydd economaidd, mae'n hanfodol bod y Prif Weinidog yn symud i amlinellu’r hinsawdd ar gyfer busnes yn y tymor byr ac yn fwy hirdymor ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod seilwaith yn flaenoriaeth i fy mhlaid a bod arnom eisiau ymagwedd newydd at sut y gwneir penderfyniadau ynglŷn â seilwaith ac ar ba sail. A wnaiff y Prif Weinidog ymhelaethu ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol y mae wedi ymrwymo i’w sefydlu fel rhan o'r fargen gyda fy mhlaid? Ac a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd yn ymrwymo i wrando ar y sector preifat wrth iddo ef a'i Weinidogion ddatblygu cynlluniau i sefydlu'r comisiwn seilwaith cenedlaethol?
Yn ôl y disgwyl, rydych chi wedi nodi y caiff Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol ei defnyddio fel fframwaith i gyflawni eich polisïau, a byddwn yn gobeithio y bydd y Ddeddf, os yw i olygu unrhyw beth o gwbl, yn dylanwadu ar y polisïau eu hunain ac yn sail iddynt ac, yn benodol, a gaiff ffyrdd a thraffyrdd eu hadeiladu a sut. Rhaid iddi ein galluogi i atal newid yn yr hinsawdd afreolus yn ogystal â lliniaru ei effeithiau gwaethaf.
Nawr, mae’r Prif Weinidog yn dweud y bydd pedair strategaeth drawsbynciol yn cael eu datblygu i roi’r Ddeddf ar waith, yn syth ar ôl dweud nad yw cyhoeddi strategaethau’n ysgogi gwelliant. A all ddatgan pa un o'r pedair strategaeth fydd yn cynnwys newid yn yr hinsawdd?
Yn olaf, ac ystyried ein bod mewn cyfnod o ymddieithrio â gwleidyddiaeth, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gynnwys pobl Cymru yn rhaglen ei Lywodraeth?
Dydw i ddim yn hollol siŵr beth oedd ystyr y sylw olaf, oherwydd rydym newydd ddod drwy etholiad. Rydym wedi rhoi ein rhaglen gerbron pobl Cymru, fel y gwnaeth pob plaid. Ond gofynnodd arweinydd yr wrthblaid gwestiynau eraill. O ran cadwyn awdurdod, nid fi yw arweinydd Llafur y DU—nid yw’n rhywbeth, am wn i, y byddwn yn ei groesawu'n fawr iawn ar hyn o bryd, os wy’n gwbl onest am y peth. Arweinydd Llafur Cymru ydw i ac mae ein safbwynt ni’n glir iawn, iawn. Hynny yw, nad oes ateb cynaliadwy i Gymru heb roi sylw i’r awdurdodaeth. Nid oes ateb cynaliadwy i Gymru heb roi sylw i blismona. Nid ASau Llafur yw eich problem chi; Llywodraeth Dorïaidd y DU yw’r broblem, oherwydd nhw yw’r rhai sydd yn erbyn ystyried yr awdurdodaeth a phlismona o gwbl, a nhw yw’r rhai sydd mewn grym, nid ASau Llafur Cymru yn San Steffan. Mae angen iddynt newid y ffordd y maent yn meddwl o ran y ddau fater hynny. Fel arall, fel y dywedais, bydd gennym system lle bydd deddfau troseddol Cymru’n cael eu plismona heb ddim llais gan bobl Cymru dros sut y caiff y cyfreithiau hynny eu plismona mewn gwirionedd. Mae’n amlwg nad yw hynny’n gwneud synnwyr yn y dyfodol. Bydd hi'n gwybod, oherwydd rwyf wedi dweud, yn ôl pob tebyg ad nauseam—lawer, lawer gwaith yn y Siambr hon a thu allan—na allai Bil Cymru ynddo'i hun byth fod, beth bynnag, yn ateb cynaliadwy, ac ystyried y ffaith bod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig ei hun yn y pair, ac ymhen dwy flynedd nid ydym yn gwybod o reidrwydd sut y bydd y DU yn edrych. Felly, bydd angen dull sy'n fwy ffederal, a bydd angen dull sy'n fwy hyblyg nag y bu hyd yn hyn. Bydd hi wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y Siambr hon bod mater cyfuno sofraniaeth yn rhywbeth y dylid ei ystyried fel sail ar gyfer y DU yn y dyfodol, fel y mae yng Nghanada. Mae'n gweithio yno; nid oes dim rheswm pam na all weithio yma.
O ran yr IPFR, nid oedd ei phlaid hi o blaid y gronfa cyffuriau canser, yna roedd yn ymddangos eu bod mewn rhyw ffordd o blaid y gronfa cyffuriau canser. Rydym ill dau mewn sefyllfa lle hoffem wneud yn siŵr bod y broses IPFR yn cael ei hadolygu, a bydd hynny’n digwydd, a byddwn yn amlwg yn cyflwyno ein cronfa driniaeth newydd a fydd yn sicrhau bod y triniaethau hynny—ar gyfer pob cyflwr sy'n bygwth bywyd, nid dim ond canser—sydd wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio’n cael eu cyflwyno mewn gwirionedd ledled Cymru cyn gynted â phosibl.
O ran yr economi, mae seilwaith yn wir yn bwysig ac rwy’n gwybod ein bod wedi bod yn gweithio gyda'i phlaid ar sut y gallai comisiwn seilwaith cenedlaethol edrych—mae’n bwysig iawn, wrth gwrs, bod atebolrwydd democrataidd yn rhan o hynny. O ran adeiladu ffyrdd a thraffyrdd, wel, mae'n wir dweud na allwch adeiladu eich ffordd allan o drafferth drwy adeiladu ffyrdd yn unig; mae cymaint â hynny’n wir. Nid yw'r M4 yn mynd i fynd i ffwrdd fel problem, mae angen ei datrys—yn yr un ffordd ag yr oedd ei phlaid hi’n gadarn o blaid ffordd osgoi Porthmadog, yn gadarn o blaid gwella’r ffordd rhwng Llandysul a Synod Inn; rwy’n deall y rhesymau pam. Roedd ffordd osgoi Llandysul yn enghraifft arall o pan fu ei phlaid o blaid rhywbeth o’r fath—ac yn wir, arweinydd ei phlaid hi oedd yn gyfrifol am y ffyrdd hynny. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig nodi bod ei phlaid hi wedi cefnogi cynlluniau ffyrdd yn y gorffennol.
Ond nid yw'n fater o ddewis y naill neu’r llall, oherwydd mae’r metro’n hynod bwysig. Nid oes dim ffordd, er enghraifft, o ganfod ateb i dagfeydd ar yr A470 drwy ledu'r ffordd. Mae'n amhosibl, oherwydd y ffordd y mae’r ffordd yn culhau tuag at Gaerdydd. Felly, bydd yn hynod bwysig gweld y metro n cael ei sefydlu ar draws y de, ac, yn wir, edrych ar gysyniad Metro’r Gogledd, i wneud yn siŵr bod hwnnw'n cael ei ddatblygu hefyd, oherwydd rydym yn gwybod bod gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan bwysig o ddatrys problemau â thraffig ar y ffordd.
Gofynnodd, 'Beth am newid yn yr hinsawdd?' Mae newid hinsawdd yn drawsbynciol. Mae'n fater sy'n effeithio ar bob un ohonom. Mae gan bob adran o fewn y Llywodraeth y gallu i gyfrannu at leihau newid yn yr hinsawdd ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn disgwyl i bob Gweinidog gadw ato.
Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n rhaid imi ddatgan fy siom ynghylch datganiad mor ysgafn, sy'n defnyddio iaith flodeuog iawn, ond nad yw'n cynnig llawer o sylwedd, i fod yn onest gyda chi. Yr wyf yn credu bod llen fwg—[Torri ar draws.] Yr wyf yn credu bod llen fwg canlyniad y refferendwm yn ôl pob tebyg yn adlewyrchu anallu'r Llywodraeth i ddod i gytundeb gyda'i phartneriaid yn y glymblaid ar raglen lywodraethu ac rwy’n meddwl bod angen i bobl fyfyrio ar hynny, oherwydd gallai’r datganiad hwn fod wedi cyflwyno llawer o faterion, ac yna gallem fod wedi cael y ddogfen fwy. Rwy’n cofio rhaglen lywodraethu olaf y pedwerydd Cynulliad—666 o dudalennau a blodyn haul ar ei flaen, ac roedd fy nghydweithiwr Nick Ramsay yn bryderus iawn am ddyfodol y blodyn haul hwnnw. Ni chafodd fyw tan ddiwedd y Cynulliad; gwywodd y blodyn haul a bu farw, ac rwy’n meddwl bod y Llywodraeth hon yn gwywo, a hynny o fewn dim ond cwpl o gannoedd o ddiwrnodau’r tymor.
Ond mae llawer o bethau pwysig y gallai'r Prif Weinidog fod wedi’u cynnwys yn ei ddatganiad y prynhawn yma, gan mai 'Blaenoriaethau ar gyfer y Llywodraeth' ydyw. Nid oes dim sôn am yr argyfwng dur yn y datganiad hwn o gwbl. Ni fyddech wedi gwybod bod y cwestiwn argyfwng na’r cwestiwn brys yn mynd i gael eu gofyn pan gafodd y datganiad ei ddrafftio, felly rwy’n synnu nad oes dim sôn am yr argyfwng dur, oherwydd yn sicr mae hwnnw'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Rwy’n synnu nad oes dim sôn am sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymdrin â diffyg ariannol y GIG mewn dau o fyrddau iechyd lleol y GIG, sy'n werth £50 miliwn, ac, unwaith eto, y gallai’r datganiad hwn fod wedi cyfeirio ato, gan dderbyn y byddai'r ddogfen fwy yn dod yn yr hydref.
Gallai'r Prif Weinidog fod wedi ymhelaethu ar yr ymrwymiad o gwmpas ardrethi busnes, rhywbeth yr ydym wedi bod yn ceisio ei ddeall am yr wyth wythnos diwethaf ers yr etholiad, ond nid oes yr un Gweinidog wedi dod ymlaen i esbonio beth yn union fyddai’r ymrwymiad hwnnw’n ei olygu i fusnesau. Unwaith eto, gallai hynny fod wedi cael ei ymgorffori yn y datganiad hwn. Gallem fod wedi cael dealltwriaeth o'r gost y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i thynnu o'r Llywodraeth, oherwydd, fel y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i nodi, mae yna gost ariannol sylweddol i'r ymrwymiadau y mae’r Llywodraeth wedi eu gwneud, a gallai'r Prif Weinidog fod wedi bod mewn sefyllfa i roi gwybod inni, drwy gyfrwng y datganiad hwn, beth yn union oedd y costau hynny—eto, rhywbeth y gallech fod wedi’i wneud ac y gallech fod wedi’i gyflwyno.
Felly, byddwn yn gobeithio, wrth fy ateb i, y byddwch yn rhoi rhai atebion i'r cwestiynau hynny. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ymdrin â diffyg ariannol y GIG yma yng Nghymru? Beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud am ardrethi busnes—yn benodol, pa gynllun newydd y byddant yn ei gyflwyno? A beth fyddant yn ei wneud i ymgysylltu â'r diwydiant dur yn y dyfodol, oherwydd mae'n ymddangos bod y cyhoeddiadau a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf wedi eu synnu’n llwyr? Ac mae'n rhaid imi ddweud, Brif Weinidog, nad oeddech yma pan gafodd y cwestiwn brys ei ofyn, ac nid oedd rhai o'r atebion hynny’n darparu rhyw lawer o gysur i'r Aelodau, os o gwbl, beth bynnag fo'u lliw gwleidyddol yn y Siambr hon, rhaid imi ddweud. Hoffem weithio ar sail drawsbleidiol ar hyn ac rwy’n meddwl bod y trefniadau hyd yn hyn wedi bod yn adeiladol iawn, ond rhaid imi ddweud nad yw’r ymateb a gawsom i’r cwestiwn brys heddiw’n rhoi llawer o gysur i Aelodau o unrhyw blaid wleidyddol yn y Siambr hon. Felly, byddwn yn gobeithio efallai y gwnewch ymateb mewn ffordd lawnach, oherwydd gallech fod wedi ymgorffori hynny yn eich datganiad.
Gwnaethoch sôn yn gryno am y prosiect metro a sut y bydd hwnnw'n cael ei ddatblygu. Rwy’n sylwi nad oes dim byd am fargen twf y gogledd yma o gwbl a sut y byddwch yn gweithio i hyrwyddo’r gogledd yn benodol, oherwydd, yn eich maniffesto, roedd gennych gynigion am fetro i’r gogledd, ond rydych wedi dewis peidio â sôn am ddim byd yn y gogledd—[Torri ar draws.] Rwyf wedi darllen y datganiad yn glir iawn; rydych yn cyfeirio at y prosiect metro yma yn y de, rydych wedi.
Felly, Brif Weinidog, mewn gwirionedd, yn hytrach na defnyddio’r cyfle hwn i fapio beth fydd blaenoriaethau'r Llywodraeth yn y dyfodol, rydych wedi dewis ei lenwi â iaith flodeuog heb ryw lawer o sylwedd na fydd yn gwneud dim gwahaniaeth i fywydau pobl ledled Cymru. Felly, ar y cwestiynau yr wyf wedi’u gofyn ichi, a allwch chi roi rhai atebion o sylwedd inni, ynteu a fydd yn rhaid inni aros naw wythnos arall i ddod yn ôl yma a chael dogfen flodeuog arall o 666 o dudalennau gyda, beth, cennin Pedr arni yn lle blodyn haul y tro hwn, Brif Weinidog?
Onid oes ymdeimlad o eironi bod arweinydd y Ceidwadwyr yn sefyll ac yn sôn am iaith flodeuog wrth sôn am flodau haul heb sylweddoli hynny? Ni wnaeth wrando ar yr hyn a ddywedais wrth ateb arweinydd yr wrthblaid am Fetro’r Gogledd, fel yr wyf wedi ei alw; yn amlwg, methodd yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, mewn amser, rydym yn gweithio ar ein hymrwymiad maniffesto dros ardrethi busnes a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau ar hynny.
O ran yr argyfwng dur, dyma’r sefyllfa: rydym wedi bod mewn cysylltiad cyson â Tata. Roedd gennyf swyddog—[Torri ar draws.] Wel, mae cwestiwn brys wedi bod ar hyn; rhoddais ateb, yn wir, yn ystod cwestiynau i’r prif weinidog i egluro'r sefyllfa. Mae gennym becyn ar y bwrdd—pecyn ariannol—a byddwn yn disgwyl gweld amodau ynghlwm wrth y pecyn hwnnw o ran ymrwymiadau i niferoedd swyddi a’r cyfnod pan fydd buddsoddiad pellach yn digwydd, ond mae angen inni hefyd weld gweithredu ar bensiynau. Nid yw'n fater y gallwn mewn gwirionedd ymdrin ag ef fel mater datganoledig ac mae angen inni weld Llywodraeth y DU yn datrys mater pensiynau a mater prisiau ynni, sy’n rhywbeth y mae pob un diwydiant ynni-ddwys yng Nghymru’n dweud wrthym ei fod yn broblem. Cyfarfûm â Celsa yr wythnos diwethaf ac eto roeddent yn dweud bod prisiau ynni yn y DU yn broblem. Gallwn anwybyddu hynny gymaint ag yr hoffai ef wneud, ond dyna beth mae busnesau’n ei ddweud wrthyf i a byddai'n beth da iddo ef wrando.
Rhaid imi ddweud, rwyf wedi sefyll yn y Siambr hon am wythnosau’n gwrando arno’n traethu am fanteision Brexit. Nid yw unwaith wedi sylweddoli bod problem wrth i ni golli £600 miliwn y flwyddyn fel rhan o'n cyllideb—nid yw unwaith wedi cydnabod bod hynny'n broblem. Dim ond heddiw, pan gafodd ei holi am y peth, dywedodd fod terfyn i faint o arian y gallai Llywodraeth Cymru ei wario ar ystafelloedd cyfrifiaduron a chanolfannau cymunedol. Dyna beth yr oedd ef yn meddwl bod yr arian yn cael ei wario arno—nid ProAct, nid ReAct, nid Twf Swyddi Cymru, nid y metro, nid y metro yn y gogledd a'r holl bethau hyn, nid cymorthdaliadau ffermio—nid cymorthdaliadau ffermio—oherwydd, heb yr ymrwymiad hwnnw, allwn ni ddim talu cymorthdaliadau ffermio i'n ffermwyr. Eto i gyd, er gwaethaf yr hyn y mae pleidiau eraill wedi'i wneud—Plaid Cymru, ac UKIP o ran hynny, sydd wedi galw ar Lywodraeth y DU i dalu pob ceiniog—mae wedi methu â gwneud hynny wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos yn y Siambr hon. Felly, ni allaf gymryd gwersi ganddo ef ynglŷn â sut y dylem lywodraethu, ac yntau’n methu â sefyll dros Gymru. A gaf ei gynghori, os hoffai gael ei gymryd o ddifrif fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y dylai ymuno â phleidiau eraill yn y Siambr hon a gwneud yn siŵr nad yw Cymru ar ei cholled? Yna byddai ganddo siawns o ennill mwy o barch gan bobl Cymru.
Brif Weinidog, rwy’n cytuno â chi bod rhaid inni ystyried effaith Brexit yn ofalus iawn, iawn, a bydd hynny’n cymryd llawer o amser a llawer o ymroddiad. Rwy’n arbennig o bryderus ynghylch polisi amgylcheddol. Rwy’n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar, ond mae rhai materion gwirioneddol enfawr i'w hystyried. Er enghraifft, ar ddyfodol cyfarwyddeb effeithlonrwydd ynni'r UE, sut yr ydym yn mynd i weld honno’n bod yn berthnasol i Gymru? A ydym yn mynd i’w chynnwys yn ein datblygiadau polisi ni ein hunain? Gwastraff a’r economi gylchol: mae'r rhain yn feysydd canolog i'n strategaeth bresennol ac yn feysydd lle’r ydym wedi gwneud cynnydd rhagorol, a dweud y gwir, ac wedi arwain y ffordd o leiaf yn y DU neu hyd yn oed yn bellach i ffwrdd. Unwaith eto, mae hyn yn mynd i gymryd llawer o waith, oherwydd, ar hyn o bryd, rydym yn rhan o’r rhwydwaith Ewropeaidd ac yn cael llawer o gymorth gan hwnnw.
Mae targedau newid yn yr hinsawdd yn faes arall lle bydd llawer iawn o gyfrifoldeb yn dod yn ôl o ble y mae ar hyn o bryd wrth osod targedau traws-genedlaethol cynhwysfawr—a fydd yn dod yn ôl yma ynteu a ydym ni’n mynd i'w gweld yn cael eu cydlynu ar lefel ehangach ar draws y DU? Mae'r rhain yn bwyntiau cymhleth iawn.
Rwy’n gwybod, o ran y flaenoriaeth a oedd gan y materion hyn yn y Cynulliad diwethaf, nad ydym am golli unrhyw ddatblygiadau yr ydym wedi'u gwneud. Mae’n rhaid inni eu cadw ar flaen y gad ar lefel y DU a sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu mabwysiadu, a bod gennym economi wirioneddol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn seiliedig ar uchelgais cydlynol, helaeth yn ein polisi amgylcheddol.
Rwy’n cytuno’n llwyr â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud. Mae'n cydnabod heriau Brexit. Rydym yn gwybod ei bod yn amhosibl gweithredu'n effeithiol ar raddfa amgylcheddol, yn enwedig ym maes llygredd aer, dim ond drwy edrych ar Gymru neu ddim ond drwy edrych ar y DU o ran hynny, neu ddim ond drwy edrych ar Ewrop. Mae'n un peth lleihau llygredd aer yn Ewrop, ond os yw diwydiant penodol yn adleoli i ran o'r byd lle mae’r rheolau’n fwy llac, mae hynny’n golygu bod y llygredd yn cael ei allforio i ran arall o'r byd ac, mewn gwirionedd, yn fyd-eang, mae pethau'n mynd yn waeth. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod yn dylanwadu ar y meysydd hynny lle y gallwn ac, wrth gwrs, yn ceisio cadw diwydiant ynni-ddwys yng Nghymru, gan, ar yr un pryd, sicrhau eu bod yn dilyn rheoliadau amgylcheddol priodol.
Mewn cyfarfod a gefais yr wythnos diwethaf gyda chynrychiolwyr y sector, fe’i gwnes yn glir iddynt y bydd yr hyn sydd eisoes wedi'i ymgorffori yng nghyfraith Cymru’n parhau. Yna, mater i Lywodraeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf fydd penderfynu beth maent yn dymuno ei gadw a beth maent y dymuno cael gwared arno. Nid ydym yn agos at ddechrau'r broses honno, ond rhaid inni ddeall nad yw'n wir, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bod popeth sydd erioed wedi dod o Ewrop yn disgyn. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Mae’r un fath â phan adawodd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon y DU. Nid yw fel pe bai’r holl gyfreithiau wedi disgyn ac nad oedd cyfraith. Roedd y cyfreithiau a oedd yno’n aros hyd nes iddynt gael eu diwygio yn y dyfodol gan y Dáil ar y pryd. Ond, mae'n wir dweud na ddylem golli golwg ar y cynnydd da yr ydym wedi’i wneud o ran ein hamgylchedd a'r cynnydd rhagorol, yn arbennig, yr ydym wedi’i wneud o ran ailgylchu.
Rwy’n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwch yn eich datganiad, ac rwy’n diolch ichi amdano, Brif Weinidog. Er nad oedd gennych lawer iawn o gynnwys i allu ei roi inni heddiw, roedd yno gyfle, na chafodd ei gymryd, i dynnu sylw at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n prif ffrydio hawliau drwy’r rhaglen lywodraethu gyfan pan fyddwn yn ei gweld. Rwy'n meddwl y byddai ailddatgan yr egwyddor honno wedi nodi i’r rheini sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus eich bod yn disgwyl i gydraddoldeb a hawliau siaradwyr Cymraeg, plant, pobl hŷn, gofalwyr ac ystod eang o grwpiau eraill, fod ar flaen y gad o ran sut y darperir y gwasanaethau hynny yn awr ac yn sgil eich rhaglen lywodraethu yn y pen draw. Felly, a allech fanteisio ar y cyfle hwn i ailymrwymo, os hoffwch chi, i’r egwyddor 'sylw dyledus' o ran polisi a deddfwriaeth, ond yn llawn mor bwysig, o ran y prosesau monitro a gwerthuso o fewn y Llywodraeth? Er enghraifft, go brin bod unrhyw bwynt rhoi’r hawl i ofalwyr gael asesiad o anghenion ar wahân i un yr unigolyn y maent yn gofalu amdano o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol os nad yw hynny'n cael ei gynnig yn ymarferol. Dim ond un enghraifft yw honno. Rwy'n meddwl bod y datgysylltiad hwn rhwng swyddogaeth hawliau mewn polisi a deddfwriaeth, a’r hyn sy’n digwydd yn y ddarpariaeth leol, yn mynd i fod yn fater y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i’w wynebu dros y pum mlynedd nesaf, ac yn un y gellid ei ddatrys mewn ffordd syml iawn, rwy’n meddwl. Diolch.
Wel, rydym yn disgwyl i’r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith gael ei ddarparu, ac os nad yw'n cael ei ddarparu, gellir cymryd camau cyfreithiol, wrth gwrs, i unioni hynny. O ran prif ffrydio hawliau, bydd yr ymarferion yr ydym wedi parhau â nhw hyd yn hyn yn parhau. Bydd yr Aelod yn gwybod bod yna nifer o feysydd lle mae’n rhaid rhoi sylw dyledus i hawliau pobl eraill ac, yn wir, i effaith polisïau penodol ar grwpiau penodol. Bydd y broses honno'n parhau yn y dyfodol i wneud yn siŵr nad yw polisïau’n cael unrhyw ganlyniadau annisgwyl sy’n creu anfantais i rai grwpiau mewn cymdeithas.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. O'r nifer o flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth yn y fan hyn nad wyf yn gallu gweld cyfeiriad penodol atynt, rydych wedi gwneud rhai cyfeiriadau at gostau uchel ynni i’r diwydiant dur. Wrth gwrs, dim ond yn ddiweddar y mae trafodaethau gyda'r UE a ddechreuwyd gan Lywodraeth glymblaid y DU wedi eu cwblhau, ac mae cytundeb i helpu gyda'r costau hynny wedi dod i rym. A allwch ymhelaethu ar beth yw’r cytundeb hwnnw a sut y bydd hwnnw o gymorth, neu, os na allwch, sefydlu’r wybodaeth honno ac yna efallai briffio’r Cynulliad hwn ar ôl toriad yr haf?
Rydych yn dweud eich bod yn sicr nad ydym yn gyrru gwelliannau drwy gyhoeddi strategaethau. Amser cinio, cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer Epilepsi Cymru. Pan godais hyn yn y datganiad busnes, roedd yr ateb a gefais yn cyfeirio at strategaeth epilepsi Llywodraeth Cymru a datganiadau y gallai’r Gweinidog eu gwneud yn y dyfodol. A wnewch chi sicrhau bod y pryderon a godwyd gan Epilepsi Cymru ac, yn bwysicach fyth, gan ddefnyddwyr gwasanaethau yn cael eu hystyried?
Rydych hefyd, ar sawl achlysur, wedi ymateb i gwestiynau yn ystod y pumed Cynulliad ynglŷn â chynigion am Ddeddf awtistiaeth, rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano, ac y cefais ddadl amdano ym mis Ionawr 2015. I ddechrau, roedd yn ymddangos bod ymatebion yn awgrymu y gellid ymgorffori hyn o fewn Bil anghenion dysgu ychwanegol. Wedi hynny, rydych wedi ymateb yn fwy cyffredinol bod Llywodraeth Cymru’n ystyried hyn ymhellach. A wnewch chi gydnabod bod y gymuned awtistiaeth yng Nghymru a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda hwy ac yn eu cefnogi’n galw am sail statudol i osod dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol ac addysg, fel bod y problemau sydd wedi’u cofnodi yn y sector ac, yn arbennig, gan bobl ar y sbectrwm a'u gofalwyr a'u teuluoedd, yn cael sylw ac yn cael statws statudol?
Yn olaf, cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Andrew R.T. Davies, at y gogledd. Rydym yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr economi a’r seilwaith wedi cynnal uwchgynhadledd ddydd Gwener diwethaf yn y gogledd i drafod datblygiad economaidd yn y gogledd yng nghyd-destun Pwerdy’r Gogledd, ond nid ydym wedi clywed cyfeirio at y fargen twf gwirioneddol a gyhoeddwyd gan y Canghellor ym mis Mawrth yn y datganiad cyllideb, pan ddywedodd y bydd Llywodraeth y DU yn agor y drws i fargen twf ar gyfer gogledd Cymru i gryfhau economi'r rhanbarth a gwneud y gorau o'i gysylltiad â phwerdy’r gogledd—mewn geiriau eraill, partneriaeth, a oedd yn cynnwys, o bosibl, fel y deallais i, mwy o arian gan y DU, uwchben Barnett, ar gael, pe bai Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu’n gynnar â hynny. Rwy’n croesawu’r ffaith bod yr Is-ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bresennol ddydd Gwener, ond a allech ymateb yn benodol yng nghyd-destun y fargen twf—'b' a 't' yn briflythrennau—a gyhoeddwyd yn y gyllideb?
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y fargen twf. Yr hyn nad yw'n glir ar hyn o bryd yw a oes elfen ar y fargen honno a fyddai wedi'i hariannu gan Ewrop, ac mae hyn wrth wraidd y broblem sy’n ein hwynebu. Os oes bwlch yn y cyllid hwnnw, er enghraifft, mae'n rhaid i rywun dalu amdano, ac, yn sicr, mae'n rhaid darparu ar gyfer hynny.
O ran y strategaeth epilepsi, wrth gwrs ein bod ni am wrando ar bryderon defnyddwyr gwasanaethau, a byddwn yn eu hystyried yn llawn wrth inni ymwneud â’r strategaeth honno dros y blynyddoedd sydd i ddod. O ran awtistiaeth, mae'n deg dweud nad oedd yn gweithio fel rhan o'r Bil ADY. Rydym yn edrych ar ba ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen yn y dyfodol er mwyn cryfhau hawliau defnyddwyr gwasanaethau, ac mae’r broses honno’n parhau.
O ran ynni, nid yw'n ymwneud â'r UE; mae'n ymwneud â marchnad ynni'r DU a'r ffordd annelwig y mae'n gweithredu. Nawr, rwyf wedi cael trafodaethau gyda Celsa ac, unwaith eto, maent wedi dweud wrthyf yr wythnos diwethaf eu bod yn gweithredu ar y sail lle mae costau ynni yn yr Almaen 20 y cant yn is; yn Sbaen maent 37 y cant yn is. Nawr, does dim rheol na rheswm am hynny, ond mae'n rhywbeth i’w wneud, rwy’n amau, â'r ffaith nad yw’r farchnad ynni, yn y DU, mor dryloyw ag y mae mewn mannau eraill yn Ewrop. Nawr, rwyf wedi ei ddweud lawer, lawer gwaith; yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod angen i ni wneud yn siŵr bod llais busnesau yng Nghymru’n cael ei glywed yn y Trysorlys, oherwydd maent i gyd yn dweud yr un peth. Maent yn ei chael hi’n hynod anodd cystadlu oherwydd prisiau ynni. Mae Tata wedi dweud yr un peth, ac mae hwn yn fater na all Llywodraeth y DU a'r DU ei hun ddianc oddi wrtho. A oes arnom eisiau diwydiannau ynni-ddwys yma? Os oes, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod pecyn cystadleuol ar gael o ran prisiau ynni; ac nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.
Diolch, Brif Weinidog.