Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr iawn. Fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, mae gan wasanaethau rheilffordd ran bwysig i’w chwarae er mwyn gweddnewid rhagolygon economaidd-gymdeithasol ein cymunedau, ac mae'n hanfodol eu bod o safon uchel a’u bod yn effeithiol, yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb. Rhaid i wasanaethau gael eu cynllunio i fodloni anghenion teithwyr yn yr unfed ganrif ar hugain. Rydym am sicrhau bod y dewisiadau cywir yn cael eu gwneud ar gyfer y dyfodol fel bod ein rheilffyrdd yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd. Bydd yr Aelodau'n gwybod, er bod y pwerau i osod blaenoriaethau a chyllid Network Rail o ran llwybr Cymru wedi eu cadw ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU, y cafwyd cytundeb mewn egwyddor â Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2014 i drosglwyddo'r pwerau i ddyfarnu masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau i Weinidogion Cymru.
Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau manwl ynghylch telerau cytundeb terfynol y trosglwyddo hwnnw. Unwaith y bydd hynny wedi ei gytuno, gellir gweithredu’r prosesau seneddol angenrheidiol er mwyn cwblhau’r gwaith o drosglwyddo swyddogaethau, fel y cytunwyd â Llywodraeth y DU, erbyn dechrau 2017. Mae masnachfraint nesaf Cymru a'r gororau, y bwriedir iddi ddechrau ym mis Hydref 2018, yn dynodi newid sylweddol a fydd yn ein galluogi i wneud gwasanaethau rheilffyrdd yn rhan ganolog o’n system drafnidiaeth. Rhoddir sylw mawr i wasanaethau trawsffiniol ac, yn arbennig, pa rai o'r gwasanaethau hynny y dylid eu gweithredu o dan ein masnachfraint nesaf. Rwyf yn gobeithio dod i gytundeb boddhaol â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y mater hwn yn y dyfodol agos.
Er mwyn paratoi ar gyfer y trosglwyddo, ym mis Ionawr eleni, agorwyd y cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus er mwyn llywio ein dull o weithredu o ran dyfodol masnachfraint Cymru a'r gororau. Roedd yr ymgynghoriad cyntaf yn canolbwyntio’n briodol ar sefydlu'r safonau ansawdd y mae'r cyhoedd yn dymuno eu gweld ar gyfer y fasnachfraint nesaf yn rhan o'n gwaith ymgysylltu parhaus â'r cyhoedd er mwyn datblygu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Cawsom 190 o ymatebion gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ledled yr ardal y mae’r fasnachfraint yn ei gwasanaethu. Pwysleisiodd y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yr angen i wella'r profiad i deithwyr gan roi eu barn am ystod eang o feysydd gan gynnwys lleihau amseroedd teithio’n gyffredinol, cynyddu nifer y teithwyr, costau is, gwelliannau o ran capasiti, gwella hygyrchedd, gwella cysylltedd a gwella prydlondeb, dibynadwyedd ac ansawdd.
O ran y trenau, rhoddwyd pwyslais ar gyfleusterau sy'n galluogi pobl i weithio a chyfathrebu'n fwy effeithiol, sicrhau mwy o gysur, gwella’r ddarpariaeth i deithwyr anabl, gwasanaethau arlwyo sydd ar gael yn gyson, awyru ac aerdymheru dibynadwy a digon o le i storio bagiau a beiciau. Mewn gorsafoedd, dywedodd pobl eu bod am weld gwelliannau i nifer y mannau eistedd dan gysgod sydd ar gael, gwell cyfleusterau prynu tocynnau, teledu cylch cyfyng gwell, mwy o adnoddau storio beiciau’n ddiogel, gwella glendid a datblygiadau mewn mannau arlwyo a manwerthu.
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi'r ymatebion ar ein gwefan ac i randdeiliaid. Bydd gwaith caffael y fasnachfraint nesaf yn dechrau cyn hir a bydd yn cael ei lywio gan yr hyn y mae'r cyhoedd wedi’i ddweud. Mae'r broses gaffael yn cael ei chynllunio fel y gallwn ddarparu systemau metro trawsnewidiol fel rhan o raglen ehangach i foderneiddio trafnidiaeth. Y cam cyntaf yw caffael gweithredwr a phartner datblygu a fydd yn cyflawni’r canlyniadau yr ydym am eu gweld yn deillio o'r fasnachfraint nesaf a’r systemau metro. Bydd y broses yn cynnwys rhaglen o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid, a phan fo gennym set glir o gynigion ar gyfer contract newydd yn gynnar y flwyddyn nesaf, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arall. Yn amodol ar broses lwyddiannus, byddwn yn dyfarnu’r contract hwnnw ar ddiwedd 2017.
Ar gyfer de Cymru, lle y mae cynlluniau wedi’u datblygu fel rhan o'r fargen ddinesig, rydym wedi sicrhau cytundeb a chyllid gan Lywodraeth y DU i symud ymlaen â metro de Cymru. Gan weithio gyda'r gweithredwr a’r partner datblygu, byddwn yn dyfarnu contractau cyflenwi seilwaith ar gyfer metro de Cymru yn ystod gwanwyn 2018.
Byddwn am weld y rhai sy’n cynnig ar gyfer y fasnachfraint nesaf yn cynnig atebion arloesol i ddarparu gwelliannau y gellir eu cyflawni o fewn cyfyngiadau’r seilwaith ac sy’n cynnig gwerth am arian i’r trethdalwyr ac i’r rhai sy’n talu i ddefnyddio’r gwasanaeth. Bydd y gwaith adeiladu yn digwydd o 2019 ymlaen a’r gwasanaethau’n gweithredu cyn gynted ag y bo modd. Bydd hyn yn dibynnu ar y cynnig sy’n cael ei ddarparu.
Mae'r cynlluniau ar gyfer metro de Cymru’n cynnwys arian cyfatebol sylweddol o gronfeydd strwythurol yr UE. Rydym wedi parhau i gynnal trafodaethau â'r diwydiant rheilffyrdd ers y refferendwm, ac mae diddordeb sylweddol o hyd mewn cyflenwi'r fasnachfraint nesaf a metro de Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg y bydd yn anodd sicrhau trawsnewidiad ar yr un raddfa heb sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd arian ar gael. Rwyf hefyd yn awyddus i fwrw ymlaen i ddatblygu'r rhaglen metro ar gyfer gogledd Cymru yn rhan o'r rhaglen ehangach i foderneiddio trafnidiaeth yn y rhanbarth.
Yr wythnos diwethaf, cynhaliais uwchgynhadledd lwyddiannus yng ngogledd Cymru gyda rhanddeiliaid allweddol o'r ddwy ochr i’r ffin i drafod sut y gellir manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd economaidd ledled y rhanbarth. Mae'r cyfleoedd i foderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth ledled y rhanbarth yn rhan allweddol o’r drafodaeth honno. Mae trydaneiddio prif linell gogledd Cymru yn asgwrn cefn i’r rhaglen foderneiddio. Bydd canolbwynt metro’r gogledd yng ngogledd-ddwyrain Cymru o gwmpas Shotton a Glannau Dyfrdwy, ond rwyf am sicrhau bod hyn yn rhan o raglen ehangach i foderneiddio trafnidiaeth ranbarthol, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd cysylltedd trawsffiniol, a lledaenu i'r gogledd ac i’r dwyrain i Loegr, i'r gorllewin i Gaergybi ac Iwerddon ac i’r de i ganolbarth Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr.
Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar nifer o astudiaethau i'n helpu i gyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer metro’r gogledd ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i foderneiddio'r ddarpariaeth cludiant ym mhob rhan o’r rhanbarth. Mae’r seilwaith yn allweddol er mwyn moderneiddio'r rhwydwaith, ond mae’n rhaid wrth gydweithredu a chydlynu rhwng y cyrff sy'n cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth ym mhob rhan o’r rhanbarth er mwyn sicrhau bod y gwaith cynllunio, ariannu a chyflwyno gwelliannau, a chynnydd mewn meysydd fel tocynnau integredig a chydweithio ar ddarparu gwybodaeth, yn digwydd yn gyflym a’i fod yn effeithiol, a byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i fwrw ymlaen â’r rhaglen hon. Credaf y gallwn helpu i sbarduno ystod o ffyniant â’i ganolbwynt yng Nghymru sy'n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd o Gaergybi i Wrecsam ac ymlaen i Lerpwl, Manceinion, Leeds a thu hwnt.