Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
A allaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a hefyd croesawu’r diweddariad yma—yn gyntaf ar fasnachfraint Cymru a’r gororau, a hefyd y sefyllfa ar y metro? Wrth gwrs, wrth sôn am y fasnachfraint yn y lle cyntaf, mae’r sefyllfa wrth inni sôn am drenau yn gallu bod yn anodd achos nad yw pob rheilffordd wedi ei ddatganoli yma i Gymru, ac yn benodol efo’r fasnachfraint benodol yma, mae rhan o’r trac yn Lloegr a rhan o’r trac yng Nghymru hefyd, wrth gwrs.
Nawr, bwriad blaenorol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel rydym yn gwybod o’r geiriad yn y papur gorchymyn, oedd pennu bod rhai gwasanaethau yn gwasanaethu marchnadoedd yn Lloegr a’u tynnu oddi ar fap y fasnachfraint sydd gennym ni yma, a’u hailaseinio i fasnachfreintiau rheilffyrdd yn Lloegr, gan ddiystyru’r ffaith, wrth gwrs, y byddai’r masnachfreintiau Seisnig hyn mewn gwirionedd yn rhedeg gwasanaethau i mewn i Gymru, ond byddai ein masnachfraint Gymreig fach ni yn cael ei gwahardd rhag gwneud hynny. Nawr, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ein sicrhau na fydd Cymru yn colli allan yn ariannol—rydym wedi clywed y gosodiad yna sawl tro dros yr wythnosau diwethaf yma. Fodd bynnag, yn dilyn y ffordd y mae Mesur Cymru wedi cael ei drin, nid ydym ni ar y meinciau yma yn barod i ymddiried yn eu gair yn hollol. Felly, buaswn yn gofyn i’r Gweinidog: pa sylwadau ydych chi wedi eu cyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau’r fargen orau i Gymru yn nhermau masnachfraint Cymru a’r gororau?
Wrth droi at gyllido’r metro, bydd y bleidlais Brexit, wrth gwrs, ychydig wythnosau yn ôl, yn amlwg yn achosi rhywfaint o ansicrwydd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud, o ran cyllid ar gyfer metro Caerdydd. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn gweithredu ar y dybiaeth y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud i fyny’r holl arian a addawyd i Gymru gan y ‘Brexiteers’, a rhai ohonynt yn rhan o’r Llywodraeth—pa bynnag Lywodraeth sy’n dod nawr, yn y dyddiau nesaf. Fodd bynnag, os nad yw hwn yn dwyn ffrwyth, pa ffyrdd eraill o ariannu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dilyn er mwyn sicrhau bod y metro yn gwasanaethu pobl y rhanbarth yn effeithiol? O gofio ein cyfarfod yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd, ynglŷn â chomisiwn isadeiledd cenedlaethol i Gymru—NICW—a ydych chi’n barod i sicrhau bod gan y comisiwn isadeiledd y pwerau a’r cyfrifoldeb, yn annibynnol o’r Llywodraeth, er mwyn ymchwilio i ffyrdd arloesol o sicrhau cyllid cyfalaf er mwyn gallu ariannu’r metro, os bydd angen?
Gan droi at fetro gogledd Cymru, rydych yn sôn am fetro gogledd Cymru, ond rydym i gyd yn gwybod mai metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ydy o mewn gwirionedd, yn amlwg, oherwydd mae yna dal rhan helaeth o ogledd Cymru i’r gorllewin o’r Rhyl—gyda phob parch i’r Rhyl—sef lle mae’ch cynigion yn gorffen. Rydych hefyd yn sôn yn eich datganiad am waith sydd yn mynd rhagddo i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a dwyrain Lloegr, a nifer o lefydd eraill, gan gynnwys gorllewin canolbarth Lloegr. Fodd bynnag, nid oes sôn am unrhyw gynlluniau i gysylltu gogledd a de ein cenedl ni yma yng Nghymru. Rydych yn ymwybodol bod Plaid Cymru wedi ailadrodd y pwynt yma ers degawdau nawr, sef ei fod yn dod yn fwyfwy anodd i adeiladu ac i uno ein cenedl heb y seilwaith sydd ei angen er mwyn cysylltu ein gilydd, de a’r gogledd. Pan fod gan y Llywodraeth Lafur hon lawer mwy o ddiddordeb mewn crybwyll cysylltiadau presennol gyda chenhedloedd eraill, ond ddim yn fodlon ystyried cysylltu cymunedau ein cenedl ein hunain gyda’n gilydd, a oes yna fodd i adrodd y golled yna yn y cynllun yn fan hyn? Hynny yw, yr angen dybryd i gael gwell cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru. Diolch yn fawr.