Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a diolch iddo, unwaith eto, am groesawu'r datganiad heddiw? Mae yn llygad ei le fod metro de Cymru yn hanfodol o ran lliniaru rhai o'r tagfeydd—llawer o'r tagfeydd a welwn yn y rhanbarth. Yn fy marn i hefyd, bydd menter y metro yn sbardun mawr i symudedd cymdeithasol.
O ran cynllunio wrth gefn yn ystod y refferendwm, cawsom ein sicrhau yn ystod y refferendwm na fyddai angen cynllun B oherwydd bod y rhai a oedd yn dadlau dros ymadael yn addo inni y byddai pob ceiniog o gost y rhaglen hon yn cael ei darparu. Amlinellais yn fy ateb i Dai Lloyd beth fydd yn digwydd os na fydd Llywodraeth y DU yn anrhydeddu’r addewid hwnnw.
O ran y gost, a chododd yr Aelod y gyfran o'r gost y gellir ei dyrannu i’r arian Ewropeaidd, mae'n rhyw 20 y cant o ran cyfalaf ar gyfer seilwaith o gyfanswm cost metro de Cymru, sef £734 miliwn ar gyfer cyfalaf gwirioneddol ar gyfer y seilwaith. Felly, mae'n tua 20 y cant.
O ran swyddogaethau a darpariaeth Trafnidiaeth Cymru, gallaf ymdrin, yn gryno, mor gryno ag y gallaf, â rhai o'r cwestiynau hynny y cododd yr Aelod. Mae Trafnidiaeth Cymru, fel y gŵyr yr Aelod, wedi ei sefydlu fel is-gwmni diddifidend sy'n eiddo’n llwyr i Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyngor arbenigol y bydd angen inni ei baratoi ar gyfer proses gaffael masnachfraint Cymru a'r gororau a’r metro. Mae'r cwmni yn aml yn cael ei gymharu â Transport for London, a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol benodol ac sydd â chymhwysedd gweithredol ehangach na Trafnidiaeth Cymru.
Ar ran Gweinidogion Cymru’n unig y gall Trafnidiaeth Cymru gyflawni swyddogaethau ac ni all gyflawni swyddogaethau trafnidiaeth awdurdodau lleol na gweithredu'n fasnachol. Ar hyn o bryd mae hyn yn cyfyngu ar ei allu i ddarparu gwasanaethau megis tramiau neu fysiau afon. Nid oes pwerau eilaidd ar hyn o bryd a allai greu corff o'r fath yng Nghymru, a byddai angen deddfwriaeth sylfaenol, a allai fod yn Fil y DU neu’n Fil y Cynulliad Cenedlaethol, yn dibynnu a yw’r eitemau sydd i'w cynnwys a'u cylch gwaith o fewn ei gymhwysedd.
Mae Trafnidiaeth Cymru’n cynghori ar gyflawni cam 1 metro de Cymru ac yn darparu cymorth yn hynny o beth, a bydd yn caffael ac yn cyflenwi masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a cham 2 metro de Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â chyflenwyr yn y farchnad i egluro'r dull gweithredu cyn dechrau'r broses gaffael ffurfiol ar gyfer cam 2 metro de Cymru a masnachfraint Cymru a'r gororau. Sefydliad dielw yw Trafnidiaeth Cymru, a bydd unrhyw arian dros ben, felly, yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru, neu’n cael ei ailfuddsoddi.
Mae’r gwaith o ddatblygu a chaffael cam 2 y metro yn cael ei gysylltu â gwaith caffael masnachfraint Cymru a'r gororau, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â'r farchnad i archwilio opsiynau posibl ar gyfer darparu masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau a gwaith ar seilwaith y rheilffyrdd i gynorthwyo i gyflwyno metro de-ddwyrain Cymru.
Mae ei drafodaethau â'r farchnad wedi eu llywio yn erbyn cyfres o ganlyniadau lefel uchel, sy'n cynnwys, ymhlith llawer o rai eraill, lleihau amserau teithio cyffredinol drwy ddarparu gwasanaethau cyflymach ac amlach a rhyng-gyfnewid gwell rhwng dulliau teithio, cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy ddarparu gwasanaethau newydd a gwell i deithwyr a’r gallu i ateb y galw yn ystod cyfnodau brig a digwyddiadau arbennig. Mae'r bobl sy’n rhan o Trafnidiaeth Cymru yn cynnig y cyngor technegol arbenigol hwnnw i sicrhau y gellir cyflawni’r canlyniadau lefel uchel hyn.
O ran metro gogledd Cymru, amlinellais i Dai Lloyd y weledigaeth ar gyfer y metro, y weledigaeth eang, sef cysylltu gogledd-ddwyrain Cymru â gogledd-orllewin Lloegr ond hefyd i sicrhau bod modd teithio’n integredig ac yn ddi-dor ar draws gogledd Cymru ac ymhellach i'r de, yng nghanolbarth Cymru ac i orllewin canolbarth Lloegr.
Mae cyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer metro’r gogledd, a fydd yn nodi'r atebion gorau ar gyfer moderneiddio trafnidiaeth ledled y rhanbarth gyda chefnogaeth rhanddeiliaid, yn flaenoriaeth gynnar imi. Bydd costau'n cael eu casglu o’r cynllun cenedlaethol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith gan gynnwys o bosibl gyllid o unrhyw fargeinion twf ar y naill ochr i'r ffin a’r llall.