Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r diwydiannau creadigol yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn economi Cymru ac mae wedi gweld cynnydd aruthrol mewn cyflogaeth. A wnaiff nodi a yw’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn debygol o effeithio ar ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’w chronfa fuddsoddi yn y cyfryngau a chymhellion cynhyrchu eraill, ac os felly, sut? Ac a wnaiff ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i asesu effaith gadael yr UE ar gytundebau cydgynhyrchu ffilm a theledu sy’n caniatáu i gynhyrchydd o wlad sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd gael mynediad at gymhellion cynhyrchu yng ngwledydd eraill yr UE, a rhoi trefniadau ar waith i osgoi colli’r cyfle hwnnw i economi Cymru?