Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Gwnaf, byddaf yn sicr yn gwneud hynny. Ac ni fydd ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r gronfa fuddsoddi yn y cyfryngau, ac i Pinewood, rwy’n falch o ddweud, yn cael eu heffeithio gan ganlyniad refferendwm yr UE. Nawr, mae fy nhîm Ewrop Greadigol eisoes mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a’r cwmnïau cynhyrchu mawr i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a lleihau’r heriau y mae gadael yr UE yn eu creu. Mae Cymru wedi targedu cwmnïau cynhyrchu Americanaidd, ac mae angen i ni leihau effaith gadael yr UE ar lif doniau rhyngwladol. Ond hefyd, mae angen i ni fanteisio ar werth cryf y ddoler yn erbyn y bunt.