<p>Prosiectau Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:35, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn tynnu sylw at brosiect ardderchog ac mae’n cyd-fynd yn dda gyda’r prosiect y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni drwy Croeso Cymru i hyrwyddo ein treftadaeth. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r safleoedd Cadw a gafodd eu goleuo’n goch yn ystod y bencampwriaeth Ewropeaidd yn ddiweddar, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod treftadaeth wrth wraidd ein cynnig i ymwelwyr â Chymru. O ran y cyllid a allai fod ar gael, mae’n gwbl bosibl, o ystyried y cysylltiad cryf â Blwyddyn y Chwedlau—ac ni fyddwn am ragfarnu unrhyw gais—y byddent yn dymuno gwneud cais yn ystod cylch ariannu’r flwyddyn nesaf, yn ystod 2017, am grant drwy’r gronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth. Rwyf wedi dweud yn eithaf clir wrth ymgeiswyr y byddwn yn hoffi gweld llawer mwy o arloesedd a chreadigrwydd yn cael ei gyflwyno ar ffurf ceisiadau am y math hwnnw o gyllid, a byddwn yn croesawu un gan y sefydliad y mae’r Aelod yn cyfeirio ato yn fawr iawn.