Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
I ddychwelyd i’r Drenewydd, rhan arall o dreftadaeth y Drenewydd ym Mhowys yw’r gamlas—camlas Maldwyn. Fe ddywedodd y Prif Weinidog ddoe fod y camlesi yn cael eu gweld gan Lywodraeth Cymru fel rhan o beth rydym yn ei gynnig i dwristiaeth, ac, felly, gan fod cynllun gan bobl y Drenewydd i adfer hen gamlas sy’n mynd drwy’r dref, sy’n rhan o hanes a threftadaeth ddiwydiannol Cymru, wrth gwrs, pa gymorth sydd gan Lywodraeth Cymru i’w gynnig yn y cylch, gan fod y cynllun yma’n wreiddiol yn mynd i fynd at gronfeydd Ewropeaidd?