<p>Prosiectau Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:39, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn hollol gywir; mae camlesi yn hanfodol ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Gwn hynny oherwydd bod y prysuraf o’r holl gamlesi ym Mhrydain yn llifo drwy fy etholaeth fy hun—camlas Llangollen. Ac maent yn arbennig o ddeniadol i ymwelwyr tramor, a bellach mae gennym y nifer uchaf erioed o ymwelwyr tramor yn dod i Gymru, gan wario’r swm mwyaf o arian erioed yma. Hoffwn i hynny barhau. Mae’r pwynt y mae’r Aelod yn ei nodi yn un pwysig ar gyfer canolbarth Cymru, ac mae’n un y mae Russell George wedi ei nodi yn y gorffennol. Cyfarfûm â’r sefydliad sy’n bwriadu adfer y gamlas. Rydym wedi derbyn manylion y prosiect yn ddiweddar, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion drefnu cyfarfod gyda’r cyngor tref lleol i weld beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â hyrwyddo ac adfer camlesi yng nghanolbarth Cymru.