Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud y bydd sicrhau mewnfuddsoddiad a lefel uwch o allforion i Gymru yn fwy heriol, yn y tymor byr o leiaf, yn sgil canlyniad y refferendwm. Mae wedi cyfeirio at yr angen am fesurau ennyn hyder ac wedi cyhoeddi menter allforio newydd. Nawr, bydd y fenter allforio honno, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cael ei chyflawni i bob pwrpas gan y gwasanaeth sifil, ac mae’n rhaid i mi ddweud nad yw hynny’n ennyn fy hyder. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n gallu enwi un wlad Ewropeaidd, ar wahân i Gymru, nad yw’n meddu ar ei gorff masnach a buddsoddi penodedig ei hun?