Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Wel, byddwn wedi meddwl y byddai’r Aelod yn derbyn bod cael atebion Cymreig i broblemau Cymreig yn rhywbeth y byddai pobl Cymru weithiau’n falch ohono. Y ffaith amdani yw bod allforion o Gymru, cyn gadael yr UE, yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohonynt. Rydym wedi gallu cynorthwyo nifer o gwmnïau i fynd i mewn i farchnadoedd newydd. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod hynny’n parhau. Byddwn yn buddsoddi’n drymach i sicrhau mynediad i farchnadoedd newydd ac yn cyflwyno busnesau Cymru i’r posibilrwydd o allforio ar draws y byd. Byddwn yn targedu meysydd penodol lle mae gennym gysylltiadau tramor hefyd, ac rwy’n hyderus y byddwn yn gallu manteisio, yn y tymor byr o leiaf, ar amrywiadau yng ngwerth arian er mwyn gallu creu twf economaidd yn y meysydd lle y gellir sicrhau allforion mewn ffordd gref a chadarn iawn.