<p>Busnesau Bach a Chanolig eu Maint</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:52, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi diweddariad i ni ar allu busnesau bach a chanolig Cymru i gymryd rhan mewn prosiectau wedi’u caffael gan Lywodraeth Cymru? Cefais drafodaeth mewn perthynas â hyn gydag ymgynghorwyr peirianneg y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, cwmni peirianneg sy’n seiliedig yng Nghas-gwent yn fy etholaeth i, ychydig cyn yr etholiad. Roedd yn destun pryder fod y cwmni hwnnw wedi rhoi’r gorau i geisio caffael contractau Llywodraeth Cymru, oherwydd, er gwaethaf eglurder y broses—ac roeddent yn canmol Llywodraeth Cymru ar hynny mewn gwirionedd—nid oedd digon o bwysoli tuag at gwmnïau lleol yng Nghymru. O ganlyniad, mae’r cwmnïau mawr yn cynnig prisiau is ac yn cael contractau, er bod y cwmnïau llai yn credu y bydd y contractau hynny’n fwy drud yn y tymor hwy. Nid yw’r cwmni lleol dan sylw yn cael unrhyw broblem yn caffael contractau ar draws y ffin, gan gynghorau Henffordd a Swydd Gaerwrangon, er enghraifft. Ni all hyn fod yn iawn. A oes unrhyw ffordd y gallwch chi, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am gaffael yn Llywodraeth Cymru, edrych ar ffyrdd y gallwn greu sefyllfa decach fel bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru a busnesau cynhenid yn ei chael yn haws cystadlu?