<p>Busnesau Bach a Chanolig eu Maint</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:53, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Oes, yn bendant, ac efallai fod y cwmni lleol y mae’r Aelod yn cyfeirio ato yn gwmni y gallwn ein dau ymweld ag ef gyda’n gilydd i drafod y problemau y maent wedi dod ar eu traws a’r atebion y gallem eu cyflwyno. O ran porth caffael Llywodraeth Cymru, GwerthwchiGymru, cafodd ei sefydlu i helpu busnesau i ennill contractau yn y sector cyhoeddus. Ers mis Mehefin 2013, mae bron i 14,000 o hysbysiadau wedi cael eu cyhoeddi ar GwerthwchiGymru, ac mae tua 61 y cant o gontractau wedi cael eu dyfarnu i fusnesau Cymru. Serch hynny, rwy’n credu bod gwaith i’w wneud i sicrhau bod caffael o fudd i bob busnes ledled Cymru, a byddwn yn fwy na pharod i ymweld â’r cwmni a ddaeth i gysylltiad â’r Aelod.