Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
A gaf fi dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at gwmni yn fy etholaeth, ffatri Sony Pencoed sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol, ac nid yn unig at honno, ond at 30 a mwy o fusnesau cynhenid sydd wedi deillio yn sgil rhagoriaeth Sony mewn dylunio i weithgynhyrchu ar y safle hwnnw a chanolfan dechnoleg Sony Pencoed UK? Mae’n sicr yn enghraifft o ddatblygu ein talentau cynhenid yma yng Nghymru—cwmnïau fel Mesuro Cyf, y bûm yn ymweld ag ef ychydig o fisoedd yn ôl, sy’n deillio o ganolfan peirianneg amledd uchel fyd-enwog Prifysgol Caerdydd, neu Wales Interactive Ltd, datblygwr a chyhoeddwr cynhyrchion adloniant rhyngweithiol ar gyfer marchnad fyd-eang, ledled y byd, a llawer iawn o rai eraill. Felly, byddwn yn croesawu pe bai Ysgrifennydd y Cabinet, ar ryw adeg yn ystod ei amserlen brysur yn y dyfodol agos, yn gweld y gwaith ardderchog gan Sony, a’r holl gwmnïau hynny sydd wedi deillio o’r sylfaen honno ar y safle, a gweld hefyd y ffordd y mae cwmnïau sefydledig sydd wedi ennill gwobrau ac sydd â hanes mewn dylunio i weithgynhyrchu yn gallu sbarduno twf mewn cwmnïau cynhenid mewn ystod o sectorau. Mae’n achos clasurol o orau chwarae cyd chwarae. Felly efallai y gallwn ei wahodd i ddod i drafod y model llwyddiannus iawn hwn ar gyfer deori busnesau.