Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fel y nodwyd gennych, mae gweithgynhyrchu yn parhau i fod yn sector hanfodol yn economi Cymru, yn enwedig yn y Cymoedd. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru, mae’r sector yn parhau i grebachu o ran ei bwysigrwydd o’i gymharu â sectorau eraill yn yr economi. O ystyried yr heriau newydd difrifol iawn a fydd yn wynebu gweithgynhyrchu o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, a fyddech yn cytuno y byddai’n amserol i Lywodraeth Cymru adolygu perfformiad a rhagolygon gweithgynhyrchu yng Nghymru a datblygu strategaeth weithgynhyrchu i Gymru er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn?