Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Rwy’n credu bod yr amser yn iawn, o ystyried y bleidlais a gafwyd, ar gyfer datblygu strategaeth economaidd newydd sy’n ystyried y ffaith y byddwn yn gadael Ewrop, ond sydd hefyd yn sicrhau bod gweithgynhyrchu yn tyfu ac yn ffynnu yn y dyfodol. Mae’r Aelod yn gywir yn ei dadansoddiad fod gweithgynhyrchu yn sector sy’n crebachu ar draws y DU. Ond yma yng Nghymru, swyddi gweithgynhyrchu yw 11.3 y cant o holl swyddi’r gweithlu yn y wlad o hyd, o’i gymharu â 7.8 y cant yn y DU gyfan. Felly, mae’n faes gwaith allweddol bwysig, a rhan hollbwysig o economi Cymru. Rydym hefyd yn gwybod—ac mae hyn yn arwyddocaol iawn—bod cynnydd o 6.3 y cant wedi bod y llynedd mewn swyddi gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r math hwn o gynnydd yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono ac yn rhywbeth y dylem geisio adeiladu arno. Mae tua 165,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn gweithgynhyrchu yn gyffredinol yng Nghymru erbyn hyn, ac mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn adeiladu arno drwy ddenu cwmnïau fel Aston Martin a TVR i’n gwlad.