Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Mae yna amryw o ffyrdd a dulliau o hyrwyddo ardaloedd menter. Mae ganddynt gyllidebau, yn anad dim ar gyfer hyrwyddo eu hunain, ar gyfer marchnata eu hunain a’r gwasanaethau a’r manteision i fuddsoddwyr sy’n lleoli ynddynt. Mae’n bosibl y bydd yr Aelod yn ymwybodol y byddwn yn cyhoeddi data ar berfformiad ardaloedd menter yn fuan iawn, ac efallai y bydd yr Aelod yn dymuno nodi’r ffigurau ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf.