Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Yn ôl gwefan Busnes Cymru, mae gan ardal fenter Glyn Ebwy uchelgais i fod yn ardal uwch-dechnoleg fywiog ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu o bob maint. Fodd bynnag, rhwng 2011 a 2014, 172 o swyddi yn unig a gafodd eu creu yn yr ardal fenter hon. Y llynedd, wyth o swyddi yn unig a grewyd yno. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ac i gefnogi ardal fenter Glyn Ebwy er mwyn annog cwmnïau i ymsefydlu a chreu swyddi gweithgynhyrchu yno?