Part of the debate – Senedd Cymru am 7:04 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl fer hon ac mae’n beth gwych, rwy’n credu, fod y geiriau olaf y byddwn yn eu siarad ar lawr y Cynulliad cyn i ni fynd i ffwrdd ar ein gwyliau haf ym mlwyddyn gyntaf y pumed Cynulliad am undebaeth lafur a’i phwysigrwydd yma yng Nghymru. Nid wyf yn mynd i gystadlu gyda Bethan na’r Aelod dros Ferthyr wrth edrych ar hanes undebaeth lafur, ond nid wyf yn meddwl ein bod yn deall teitl y ddadl fer hon, fod ein hangen am undebau llafur bellach yn fwy nag erioed, oni bai ein bod yn edrych ar rai o’r pethau sydd wedi dod â ni i ble’r ydym. Digwyddodd y cyfarfod cyntaf un o’r TUC, Cyngres yr Undebau Llafur, yn 1868. Ar ei agenda: anghydraddoldebau cyflog, oriau gweithwyr, addysg dechnegol a bygythiadau i swyddi a hawliau gweithwyr. Felly, mae’n daith hir o 1868 i heddiw, ond mae’r agendâu mewn nifer o ffyrdd yn aros yn hynod o debyg, a’r heriau i undebaeth lafur drwy gydol y cyfnod hwnnw. Nid oes gennyf amheuaeth, ar bob un o’r pwyntiau hynny, fod pobl wedi dweud wrthynt eu hunain, a hynny’n briodol, eu bod angen undebau llafur yn fwy nag erioed. Pwy heddiw sy’n cofio Dydd Llun Mabon, pan wrthododd undebwyr llafur yn y diwydiant glo fynd i weithio ar y dydd Llun cyntaf o’r mis am chwe blynedd hir er mwyn cyfyngu ar gynhyrchiant a diogelu cyflogau drwy wneud hynny? Rydym yn sicr yn cofio dyfarniad Cwm Taf 1901, gyda’i ymosodiadau ar yr hawl i streicio, a dyfarniad Osborne 1909, a farnodd ei bod yn anghyfreithlon i undebau llafur gyfrannu at gronfeydd gwleidyddol. Mae hanes undebaeth lafur a hanes Cymru yn gwbl gysylltiedig, onid ydynt? Cafodd y ddau ddyfarniad eu gwrthdroi drwy gydweithredu rhwng yr undebau llafur.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol cyntaf i mi gymryd rhan ynddo, yng Nghaerdydd, yn 1983. Roeddwn yn hynod o ifanc a chefais fy rhoi yng ngofal pleidleisiau post. [Torri ar draws.] Nid oeddwn mor ifanc â hynny. Ond dyma ble’r oeddwn, newydd gyrraedd Caerdydd, a chefais fy rhoi yng ngofal pleidleisiau post ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd, yn ddiau am ei fod yn cael ei ystyried yn rhywbeth mor ddiniwed fel nad oeddwn yn debygol o wneud llanast llwyr ohono. Yn y dyddiau hynny, fel y mae rhai ohonom yma yn cofio, roedd cael pleidlais drwy’r post yn llawer iawn anos nag y mae heddiw. Roedd rhaid i chi fynd at berson penodol iawn i gael y cais am bleidlais bost wedi’i lofnodi, ac yn y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerdydd, dim ond un person roeddwn i’n cael mynd ato, a’i enw oedd Stan Czekaj, ac roedd yn ei 80au, ac roeddwn yn fy 20au, a’r rheswm roedd Stan yn enwog oedd ei fod wedi marchogaeth y beic modur o dde Cymru i Lundain yn ystod streic gyffredinol 1926, gan fynd â negeseuon gan y pwyllgor yma i bwyllgor Cyngres yr Undebau Llafur yno. Mewn rhai ffyrdd, wyddoch chi, oni fu erioed cymaint o angen yr undebau llafur nag yn 1926? Mae’r edefyn hwnnw o’n hanes yn ddi-dor mewn gwirionedd. Yn ne Cymru, yn 1926, câi’r streic gyffredinol ei harwain yn bennaf gan A.J. Cook—’cynhyrfwr o’r math gwaethaf’, meddai dirprwy brif gwnstabl Morgannwg wrth ysgrifennu at y Swyddfa Gartref ar y pryd—ac mae plac glas iddo ym Mharc Treftadaeth y Rhondda y gwn fod arweinydd yr wrthblaid wedi siarad yn y digwyddiad i’w ddadorchuddio ychydig wythnosau yn ôl yn unig. Mae gennym draddodiad hir hefyd o droi ein cynhyrfwyr yn arwyr flynyddoedd lawer yn ddiweddarach.
Felly, roedd A.J. Cook, y dywedodd Arthur Horner, un arall o arweinwyr mawr y glowyr yn ne Cymru, amdano gan feddwl sut y llwyddai i gynhyrfu cyfarfodydd cyhoeddus yn ystod ymgyrch 1926—byddai Arthur Horner yn dweud sut y byddai’n dod i mewn ac yn siarad yn gyntaf, a byddai’n rhoi araith hir a didwyll y byddai pobl yn gwrando’n ddigon tawel arni, ac yna byddai A.J. Cook yn ei ddilyn ac yn rhoi araith danbaid ffantastig a fyddai wedi ysbrydoli pawb erbyn ei diwedd. A dywedodd Horner, wrth edrych yn ôl, ei fod wedi sylweddoli mai’r gwahaniaeth rhwng y ddau ohonynt oedd ei fod ef, Arthur Horner, yn siarad â’r cyfarfod, tra roedd Arthur Cook bob amser yn siarad ar ran y cyfarfod, a thrwy grisialu barn pobl ar y pryd, gallai eu hadlewyrchu’n ôl atynt mewn ffordd a oedd yn eu hysbrydoli i weithredu fel y gwnaethant. Felly, dyna Arthur Cook, a arweiniodd yr orymdaith streic newyn gyntaf o dde Cymru i Lundain yn y 1920au, ac yno i’w cyfarfod roedd talent mawr du yr ugeinfed ganrif, Paul Robeson, a oedd yn actio Othello yn y West End; daeth allan i gyfarfod â glowyr de Cymru wrth iddynt gerdded i mewn i Lundain—dechrau ei gysylltiad a barodd ddegawdau â de Cymru, gan siarad yn 1938 â 7,000 o bobl yn Aberpennar wrth iddo ddadorchuddio cofeb i’r 33 o ddynion o dde Cymru a fu farw yn y brigadau rhyngwladol yn rhyfel cartref Sbaen. Ac ar ddydd Sadwrn yr wythnos hon, byddwn yn nodi pedwar ugain o flynyddoedd ers cyfraniad y bobl hynny pan fyddwn yn cyfarfod wrth gofeb y brigadau rhyngwladol ym Mharc Cathays yma yng Nghaerdydd. Roedd angen undebau llafur arnynt hwy, onid oedd? Ac roedd eu hangen arnynt, rwy’n siŵr, yng ngeiriau’r cynnig hwn, fe fyddent yn meddwl, yn fwy nag erioed o’r blaen.
Nawr, ddirprwy Lywydd, mae yna hanes hir, ac nid oes gennym amser i fynd drwy’r cyfan. Ni fyddem am ei adael heb sôn am streic y glowyr, y profiad ffurfiannol i lawer o bobl yn y Siambr hon. Roedd yr undeb llafur roeddwn yn perthyn iddi ar y pryd, fel arweinydd yr wrthblaid, sef Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, wedi gadael i ni fod yn arsylwyr swyddogol, beth bynnag roedd hynny’n ei olygu, yn y streic. Felly, byddwn yn codi am 4.30 yn y bore ac yn mynd gydag eraill i wylio’r ymdrech y tu allan i byllau yn ne Cymru, ac roedd angen cannoedd ar gannoedd o swyddogion yr heddlu i ganiatáu i lorïau wneud eu ffordd i mewn ac allan o lofeydd de Cymru. Ac yn sicr yn yr eiliadau ffurfiannol hynny rwy’n credu, fel roeddem yn sefyll yno, fe wyddem fod angen undebau llafur yn fwy nag erioed.
Dechrau’r stori honno, y stori drist a amlinellodd Bethan wrth iddi dynnu sylw at hanes undebaeth lafur—yr ymosodiadau arni a ddigwyddodd dros y 30 mlynedd hynny. Felly, pam rydym eu hangen yn fwy nag erioed heddiw? Wel, dyma dri rheswm, rwy’n meddwl: yn gyntaf oll, mae sefyllfa wrthrychol pobl sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig heddiw yn wahanol hyd yn oed i’r hyn ydoedd yn rhai o’r brwydrau cynharach hynny. Mae gweithwyr y DU yn dioddef y dirywiad hiraf a mwyaf difrifol mewn enillion go iawn ers dechrau cadw cofnodion yn oes Fictoria. Mae’r gyfran o’n hincwm cenedlaethol sy’n mynd ar lafur yn is nag y bu ers 50 mlynedd, tra bo cyfran cyfalaf yn uwch nag y bu ers 50 mlynedd. Ac mae effaith hynny yn gwbl real. Dyma Andrew Haldane, prif economegydd Banc Lloegr, yn siarad yng nghynhadledd flynyddol y TUC y llynedd, lle y dywedodd:
Pe bai cyflogau real yr Unol Daleithiau wedi dilyn trywydd cynhyrchiant ers 1970, byddai’r gweithiwr cyfartalog heddiw 40% yn well ei fyd. Pe bai cyflogau’r DU wedi dilyn trywydd cynhyrchiant ers 1990, byddai’r gweithiwr cyfartalog heddiw 20% yn well ei fyd. Yn wahanol i gyfnodau cynharach o newid technolegol cyflym, nid yw llafur wedi cael rhan gyfartal o fuddion datblygiadau mawr diweddar.
Rhan o’r rheswm pam nad yw llafur wedi cael rhan gyfartal o fuddion y datblygiadau technolegol hynny yw oherwydd bod undebau llafur wedi bod yn wannach ac yn llai abl i gynrychioli eu haelodau yma, yn yr Unol Daleithiau, ac mewn rhannau eraill o Ewrop. Mewn ystyr hollol wrthrychol, mae angen undebau llafur yn fwy nag erioed.
Mae eu hangen yn fwy nag erioed—a fy ail reswm, ddirprwy Lywydd—yw oherwydd yr ymosodiadau uniongyrchol sy’n dal i ddigwydd ar undebau llafur ar lefel y DU. Yma yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i ddiddymu Deddf Undebau Llafur 2016, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod y Gweinidog a fydd yn dod â’r ddeddfwriaeth ddiddymu honno gerbron y Cynulliad hwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn, oherwydd mae gwanhau undebau llafur nid yn unig yn weithred o fandaliaeth ynddi ei hun, ond mewn gwirionedd mae’n tanseilio gallu’r bartneriaeth gymdeithasol i ddarparu’r pethau sy’n dda i ni i gyd.
Fy nhrydydd rheswm yw canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin, oherwydd, yn anffodus iawn, rwy’n credu y gwêl y bobl—ac rydym wedi cael trafodaeth ddefnyddiol heddiw ynglŷn â pham y gwnaeth pobl y dewisiadau a wnaethant—a wrthododd yr Undeb Ewropeaidd ac sydd wedi bod fwyaf o angen ei diogelwch, nad dewis rhwng Ewrop nad oeddent yn ei hoffi a gwell dyfodol oedd hwn, ond agenda Americaneiddio, agenda’r Iwerydd, lle bydd Partneriaeth Buddsoddi a Masnach Drawsiwerydd yn rhywbeth y bydd y bobl a berswadiodd bobl i bleidleisio yn y ffordd y gwnaethant yn ei chroesawu cyn gynted ag y gallant. Yn sgil gadael y diogelwch cymdeithasol a gynigir gan yr Undeb Ewropeaidd, mae angen undebau llafur yn fwy nag erioed. Felly, yfory byddaf yn mynychu cyngor partneriaeth y gweithlu yma yng Nghaerdydd, gan ein bod ni yma yng Nghymru yn ceisio—ac nid yw’n hawdd ac nid ydych bob amser yn cytuno ac rwy’n eithaf sicr fod awdurdodau lleol sy’n cael eu harwain gan bleidiau o lawer o wahanol dueddiadau gwleidyddol wedi wynebu anawsterau gyda’u cydweithwyr yn yr undebau llafur a’r bobl sy’n gweithio iddynt—ond rydym yn ceisio gwneud y gwaith caled o eistedd o gwmpas y bwrdd gyda’n gilydd—y Llywodraeth, yr undebau llafur, y cyflogwyr—yn y model partneriaeth gymdeithasol y gwyddom ei fod yn cynnig ein cyfle gorau i wrthsefyll y storm sy’n ein hwynebu, a lle y gall undebau llafur ddal ati i ddarparu gwasanaeth cwbl hanfodol ar gyfer eu haelodau mewn cyfnod pan fo’u hangen, yn wir, yn fwy nag erioed. Diolch yn fawr.