Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Ydw. Diolch am y cwestiwn. Rydych yn gwneud pwynt cwbl deg ynglŷn â’r ffordd rydym yn annog ac yn arfogi’r cyhoedd i wneud dewisiadau mwy gwybodus, i wneud defnydd priodol o ofal iechyd, fel bod dewisiadau eraill ar gael i chi os nad ydych angen adnodd gwerthfawr ymateb ambiwlans brys, ac mae gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’r rheini yn hawdd i’w ddeall ac ar gael yn hawdd. Felly, mae angen i ni wneud mwy o waith er mwyn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael, yn ogystal â bod eisiau i’r cyhoedd wneud defnydd o’r wybodaeth honno. Rwy’n ddiolchgar i’r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys eich cyn-gyflogwr, am geisio tynnu sylw’n gadarnhaol at y gwasanaeth Dewis Doeth a’r wybodaeth sydd ar gael, er mwyn i bobl wneud y dewis gwybodus a phriodol hwnnw.