Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o’r datblygiadau yn yr ymgyrch Dewis Doeth, a hyrwyddwyd ar y cyd gan nifer o fyrddau iechyd, yr ymddiriedolaeth ambiwlans, Llywodraeth Cymru, undebau llafur a sefydliadau eraill, fel y gwyddoch. Mae’r ymgyrch yn annog y cyhoedd i feddwl cyn ffonio am ambiwlans ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn rhai brys neu gyflyrau nad ydynt yn bygwth bywyd, neu i feddwl cyn mynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys gyda chwynion ac anhwylderau cymharol fach. Yn lle hynny, anogir y cyhoedd i geisio cymorth fferyllwyr, meddygon teulu, Galw Iechyd Cymru a dilyn llwybrau gofal eraill amgen, gan ryddhau ambiwlansys i ymateb i alwadau coch 1 a lleihau’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yr ymgyrch hon wedi bod yn ffactor sydd wedi cyfrannu at liniaru rhywfaint o’r pwysau, ond bod y cynnydd ymylol yn nifer cyffredinol y galwadau brys sy’n cael eu hateb gan y gwasanaeth ambiwlans yn amlygu’r angen am gefnogaeth a chyhoeddusrwydd eang parhaus yn yr ymgyrch i addysgu’r cyhoedd ar y defnydd priodol o’r gwasanaethau brys?