<p>Unedau Brys a Damweiniau yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:27, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae targedau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai 95 y cant o gleifion gael eu gweld o fewn pedair awr, ac na ddylai unrhyw un aros am 12 awr neu fwy, ond yn ffigurau mis Mai y cyfeiriwch atynt, 82.5 y cant yn unig a welwyd o fewn pedair awr, ac mewn unedau damweiniau ac achosion brys yng ngogledd Cymru, 79.9 y cant yn unig—y gwaethaf yng Nghymru. Arhosodd 856 o bobl yng ngogledd Cymru fwy na 12 awr, sef y lefel uchaf yng Nghymru, a Glan Clwyd, rwy’n meddwl, oedd yr ysbyty a oedd yn perfformio waethaf yng Nghymru ar y targedau 12 awr. Rydych yn sôn am ffigurau’n newid, wel, nid oedd hynny wedi newid ers mis Tachwedd ac roedd yn waeth na Rhagfyr 2015. Sut, felly, rydych yn ymateb i’r pryderon niferus ymysg staff a chleifion yng ngogledd Cymru fod cael gwared ar unedau mân anafiadau a gwelyau cymunedol y GIG wedi ychwanegu at y pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys a bod rhaid i ateb ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain gynnwys adfer y gwasanaethau hynny?