Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch. Rwy’n cefnogi’r pwynt sy’n cael ei wneud yn llwyr. Rwy’n falch o weld bod y Senedd mewn gwirionedd wedi pasio cynnig yn cadarnhau eu bod am i statws dinasyddion yr UE yma gael ei gadw a’i ddiogelu. Yma yn y GIG yng Nghymru, ac ar draws pob un o adrannau’r Llywodraeth, rydym wedi bod yn awyddus, dros yr wythnosau diwethaf ers i’r DU bleidleisio dros adael yr UE, i ddweud yn glir iawn yn ein datganiadau cyhoeddus, wrth weld staff, ac wrth sefyll ar lwyfannau—ein bod yn ei gwneud yn glir iawn fod y Llywodraeth hon yn gwerthfawrogi cyfraniad dinasyddion yr UE, ac o bob rhan o weddill y byd, sy’n teimlo’n ansicr ynglŷn â’u lle yn ein gwlad. Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad a wnânt i’r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu, ond hefyd i’r cymunedau y maent yn rhan ohonynt, ac edrychaf ymlaen at eu cael yn rhan o Gymru, nid yn unig yn awr, ond hefyd fel rhan allweddol o’n dyfodol fel gwlad sy’n edrych tuag allan.