Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Nid yw’n swnio bod yna asesiad penodol wedi’i wneud; rwy’n synnu rywfaint ynglŷn â hynny. Mae’r ansicrwydd rydym ni’n ei wynebu mewn perig o danseilio’r NHS a allwn ni ddim fforddio aros i’r Llywodraeth weithredu. Rŵan, wnawn ni ddim mynd dros y problemau mae Cymru yn ei wynebu rŵan o ran denu a chadw meddygon, ond mi wnaf droi, os caf, at amodau a thelerau gwaith staff yr NHS. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi addo peidio ag efelychu Jeremy Hunt o ran mabwysiadu y cytundeb newydd i feddygon. Felly, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn ei gweld hi’n debygol y gwelwn ni ddiwedd ar drafodaethau cyflog Prydain gyfan yn y blynyddoedd nesaf i holl staff yr NHS, a pha baratoadau mae’r Ysgrifennydd yn eu gwneud i sicrhau bod gennym ni agwedd neilltuol Gymreig tuag at gyflogau a thelerau sy’n adlewyrchu gwerth staff yr NHS, yr angen i gadw staff profiadol, ac, wrth gwrs, sy’n dangos i bobl ifanc y gallan nhw, ac y dylen nhw, fod yn anelu am yrfaoedd o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?