2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2016.
4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0019(HWS)
Fy mlaenoriaethau yw darparu gwasanaethau iechyd i bobl Sir Benfro sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Byddaf yn cael fy arwain, wrth gwrs, gan y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau a diweddaraf er mwyn darparu’r gofal iechyd o’r safon uchel y mae pobl Sir Benfro yn ei haeddu.
Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch yn synnu fy nghlywed yn dweud mai blaenoriaethau fy etholwyr yw ailgyflwyno’r uned gofal arbennig babanod a’r gwasanaethau pediatrig amser llawn yn ysbyty Llwynhelyg. Fodd bynnag, rydych wedi ei gwneud yn gwbl glir fod newidiadau Llywodraeth Cymru i wasanaethau Ysbyty Llwynhelyg wedi digwydd o ganlyniad i adolygiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, a ddaeth i’r casgliad nad oedd cleifion yn Sir Benfro yn wynebu unrhyw niwed. Ond er mwyn iddo fod yn ystyrlon, awgrymaf y dylai’r adolygiad fod wedi coladu a chasglu llawer iawn o ddata dros gyfnod sylweddol o amser cyn dod i’r casgliad nad yw’r cleifion yn wynebu unrhyw niwed. Felly, dan yr amgylchiadau, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio rhagor i’r mater hwn er mwyn i’r dystiolaeth ystadegol fod yn gwbl ddibynadwy, gan nad wyf yn credu bod y newidiadau a wnaed yn ddiogel ar gyfer y bobl rwy’n eu cynrychioli?
Nid oes unrhyw dystiolaeth sy’n dweud nad yw’r newidiadau’n ddiogel, ac rwy’n gresynu’n fawr at y modd y mae’r ddadl hon yn cael ei chynnal, gan fod pobl yn poeni ac yn pryderu’n ddiangen pan fo cynrychiolwyr etholedig yn dweud nad yw gwasanaethau’n ddiogel neu eu bod yn beryglus. Nid yw hynny’n gwneud unrhyw les. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi’r honiad a wnaed gan yr Aelod yn y Siambr hon ac mewn sylwadau i’r wasg leol. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym fel sylfaen dystiolaeth yw’r ffaith nad oes unrhyw faban neu fam sydd wedi rhoi genedigaeth o dan y trefniadau newydd wedi dioddef unrhyw niwed clinigol. Yn wir, mae 210 o fenywod wedi cael eu derbyn i uned dan arweiniad bydwragedd Llwynhelyg ers agor yr uned. Mae tri chwarter y menywod wedi rhoi genedigaeth yn ddiogel yn yr uned dan arweiniad bydwragedd. Trosglwyddwyd chwarter y menywod i Langwili i allu rhoi genedigaeth yn ddiogel, ac mewn gwirionedd, mae’r un gyfran wedi rhoi genedigaeth yn y cartref hefyd.
Mae hon yn system lwyddiannus sy’n darparu gofal o ansawdd i fenywod a’u plant, a dyna rydym ei eisiau. Mae angen i ni fuddsoddi mewn bydwragedd a pharchu eu proffesiynoldeb a’r swydd y maent yn ei gwneud. Mae angen i ni sicrhau bod gwasanaethau arbenigol penodol yn cael eu darparu yn rhan o fodel sy’n gynaliadwy ac yn darparu’r ansawdd gofal sydd ei angen ar bobl. Nawr, dyna fy ymrwymiad i bobl Sir Benfro, ac i Gymru gyfan. Os yw’r dystiolaeth yn newid, yna byddwn yn edrych unwaith eto ar y system a ddarparwn ac ar ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu, ond ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl o niwed clinigol yn sgil y newidiadau a wnaed gennym, ac rwy’n falch ein bod wedi gwneud newidiadau yn seiliedig ar dystiolaeth a bod pobl yn cael gwell gwasanaeth o ganlyniad i hynny.
Hoffwn ddilyn y cwestiwn a ofynnwyd gan Rhun yn gynharach: yng ngoleuni penderfyniad meddygon iau Lloegr i wrthod y contract, gallai hynny effeithio’n wirioneddol ar forâl yn y GIG yn Lloegr. Tybed a allwch ddweud wrthym beth arall y gallech ei wneud, o bosibl, i ddenu rhai o’r bobl sydd wedi eu dadrithio â’r ffordd y mae’r system yn cael ei rhedeg yn Lloegr.
Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedais yn gynharach, nid ydym yn bwriadu dilyn yr un trywydd â Lloegr drwy osod contract. Un rheswm pwysig pam y gwrthodwyd y contract hwnnw oedd am nad yw meddygon yn ymddiried yn Llywodraeth y DU, ac mae honno’n sefyllfa andwyol tu hwnt. Rwy’n falch fod gennym berthynas iach gyda Chymdeithas Feddygol Prydain yma yng Nghymru, ac maent yn cydnabod hynny ar ôl y bleidlais i wrthod contract y meddygon iau. Felly, byddaf yn cyfarfod â hwy, a byddwn yn ei gwneud yn glir i feddygon iau yn Lloegr ac unrhyw ran arall o’r DU y byddant yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi os ydynt yn dymuno byw a gweithio yma yng Nghymru. Mae’n ymwneud nid yn unig â rhoi’r cynnig i bobl yn Lloegr, ond â dweud yn gadarnhaol fod yna resymau da dros ddod yma i Gymru i fyw ac i weithio mewn system a fydd yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu. Rydym yn mynd ati i wrando ac i ymgysylltu â meddygon i ddeall beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn gwella ansawdd yr hyfforddiant sydd ar gael. Mewn gwirionedd, rwy’n optimistaidd iawn ynglŷn â hyn gan fod Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain eu hunain yn rhan weithredol o’r gwaith a wnawn. Credant ein bod ar y trywydd cywir a’n bod yn gwneud y pethau cywir. Yr her i ni yw gwneud hynny’n llawn ac yn gyflym, a darparu’r math o ofal iechyd a ddymunwn yma yng Nghymru, a’r nifer o feddygon rydym yn cydnabod sydd eu hangen arnom hefyd.
Yn wyneb y ffaith bod diffyg meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol yn ne sir Benfro, byddwn i’n hoffi cael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod e’n hyderus bod y gwasanaeth yna yn saff ar gyfer etholwyr yn sir Benfro. Yn ail, a hoffai e esbonio pam nad yw e wedi cefnogi troi’r arbrawf i wneud yr uned mân ddamweiniau a oedd wedi’i agor dros y Pasg yn Ninbych-y-pysgod yn rhywbeth sydd yn digwydd drwy gydol y flwyddyn dwristaidd o leiaf?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n cyfathrebu’n rheolaidd â phobl yn ne Sir Benfro ynglŷn ag ansawdd a natur y gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’n bendant yn croesi fy nesg yn rheolaidd ac mae diddordeb gennyf yn y mater. Nid yw pobl wedi mynegi pryderon wrthyf ynglŷn â diogelwch y gwasanaeth; mae’r prif bryderon sy’n cael eu dwyn i fy sylw yn ymwneud ag ansawdd y gofal a sut y caiff bobl fynediad at y gofal hwnnw. Mae’r bwrdd iechyd wedi darparu ystod o ymyriadau, gan gynnwys darparu rhagor o ymarferwyr nyrsio, rhagor o therapyddion, a rhagor o barafeddygon yn wir er mwyn helpu i gefnogi gofal sylfaenol yn y rhan honno o Gymru. Felly, mae’r bwrdd iechyd yn mynd ati’n wirioneddol ragweithiol i fynd i’r afael â’r mater.
Mewn perthynas â mân anafiadau, ac yn benodol, natur dymhorol y gwaith mân anafiadau ychwanegol, cafwyd gwerthusiad yn dilyn y cynllun peilot dros y Pasg ac mae’r bwrdd iechyd wrthi’n gweithio ar wasanaeth mwy rheolaidd a chynaliadwy ar gyfer cyflawni hynny, a deall beth sydd angen iddynt ei gomisiynu ar gyfer y lefel dymhorol ychwanegol o gysylltiad a gwasanaeth y bydd angen iddynt ei ddarparu. Mewn gwirionedd, maent eisoes wedi cytuno i sicrhau gwasanaeth ychwanegol dros fisoedd yr haf drwy gomisiynu gwasanaeth gan Ambiwlans Sant Ioan hefyd. Felly, nid yw hwn yn fater lle mae pobl yn cael eu hanwybyddu, nac yn fater lle mae argymhellion a gwerthusiadau yn cael eu gwrthod; yn syml, mae’n ymwneud â datrys sut y caiff hynny ei gyflawni mewn modd synhwyrol er mwyn i bobl gael y gofal o ansawdd sydd ei angen arnynt ar adegau penodol o’r flwyddyn pan fo pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth yn y rhan honno o Gymru.