2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2016.
6. Beth yw strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddi meddygon yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0026(HWS)W
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn gweithio gyda Deoniaeth Cymru, y GIG, y colegau brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain a chyrff proffesiynol i sicrhau ein bod yn gwneud Cymru yn lle deniadol i hyfforddi, gweithio a byw ar gyfer unrhyw feddyg dan hyfforddiant, gan ganolbwyntio’n arbennig ar rai o’r problemau yn y gogledd. Fel y dywedais yn gynharach, bydd gennyf fwy i’w ddweud yn y misoedd nesaf, wrth i ni weithio ar hyn gyda’n rhanddeiliaid allweddol i gynhyrchu strategaeth hirdymor newydd.
Diolch yn fawr iawn. Mae bron i hanner holl ddoctoriaid Pen Llŷn dros 55 mlwydd oed, ac mae disgwyl i nifer helaeth ohonyn nhw ymddeol o fewn y pum mlynedd nesaf, fydd yn arwain at argyfwng gwirioneddol. Mae yna dystiolaeth fod doctoriaid yn aros lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Felly, er mwyn mynd i’r afael â diffyg doctoriaid, mae yna ddadl gref, fel yr ydych wedi cyfeirio ato fo, dros gael cynllun Cymru-gyfan a hirdymor i gynyddu llefydd hyfforddi meddygon. Ond, yn ogystal â hynny, mae yna ddadl gref dros greu ysgol feddygol newydd ym Mangor fel ein bod ni’n ehangu’r ddarpariaeth ar draws Cymru, ac yn y gogledd yn benodol. Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno yn y Siambr yma yn ddiweddar bod angen ystyried creu cynllun busnes ar gyfer ysgol feddygol i’r gogledd, ac yn wir, mae llawer o gefnogaeth gan randdeiliaid o fewn y sector iechyd ac addysg uwch er mwyn i hyn ddigwydd, ac mae yna gyfle penodol i greu ysgol a allai arbenigo mewn darparu gwasanaethau meddygol i ardaloedd gwledig. Felly, Ysgrifennydd Cabinet iechyd, a wnewch chi ymrwymo heddiw y byddwch chi’n cymryd rhan lawn a chanolog yn y broses o greu ysgol feddygol ym Mangor?
Diolch am eich cwestiwn. Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am broffil meddygon teulu mewn nifer o wahanol gymunedau, gan gynnwys ar draws gogledd Cymru. Dyna pam ei bod yn bwysig fod gennym fodelau gofal newydd sy’n darparu’r math o ofal y bydd pobl ei eisiau mewn gwirionedd, ac y bydd meddygon teulu newydd yn dymuno dilyn gyrfa yn ei ddarparu, gan fod newid yn y ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaeth a sut y mae pobl yn disgwyl gweithio. Dyna pam mai rhan o’r hyn rwy’n edrych arno yw profiad meddygon dan hyfforddiant o ofal sylfaenol ar gam cynharach, gan fod digon o dystiolaeth a rhesymeg dros ddweud bod pobl, os yw hynny’n digwydd, yn fwy tebygol o fod eisiau dilyn gyrfa mewn gofal sylfaenol. Unwaith eto, mae ein rhanddeiliaid allweddol yn cefnogi hynny fel rhywbeth i ni ei ystyried.
O ran eich pwynt ynglŷn ag ysgol feddygol newydd, rwy’n sylweddoli pam y byddai’r Aelod yn dymuno gwneud cais am ysgol feddygol newydd yn ei hetholaeth, ac rwy’n cydnabod y gwir ddiddordeb yn y maes penodol hwn. Yr hyn y dywedais y byddwn yn ei wneud, a’r hyn y byddaf yn ei wneud yw ystyried yr achos dros ysgol feddygol newydd. Rwyf wedi gofyn i swyddogion wneud rhywfaint o waith ar sut beth fyddai honno, neu’r hyn na fyddai, oherwydd os yw’r dystiolaeth yno fod ysgol feddygol yn rhywbeth y gallem ei wneud ac y byddai’n cyflawni’r hyn rydym am iddi ei gyflawni—y byddai’n recriwtio pobl, ac y byddai o gymorth i ni—yna rwy’n awyddus i weld beth y mae hynny’n ei olygu a sut y gallem gyflawni hynny. Rwyf hefyd am weld beth sy’n bodoli ar hyn o bryd gyda’r ysgol glinigol a’r trefniadau ar gyfer hyfforddiant yn y gogledd, hyd yn oed os na cheir ysgol feddygol newydd. Felly, byddaf yn cael arweiniad ar yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol a’r hyn y dylem ei wneud i sicrhau bod gennym fwy o feddygon mewn hyfforddiant a mwy o feddygon sy’n awyddus i weithio mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys y sefyllfa a ddisgrifiwyd gennych yng ngogledd Cymru.