Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl ledled gogledd Cymru. Fel rhan o’r mesurau arbennig, mae’n ofynnol i’r bwrdd iechyd wella’r modd y mae’n ymgysylltu â staff, y boblogaeth leol, partneriaid a rhanddeiliaid, ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu model mwy effeithiol o ymgysylltu.