Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch. Wel, fel y gwyddoch, mae cynghrair iechyd gogledd Cymru wedi ysgrifennu atoch—cynghrair eang o ymgyrchwyr a grwpiau ledled rhanbarth gogledd Cymru—i’ch llongyfarch ar eich penodiad, gan ddweud eu bod yn gobeithio na welwn rai o gamgymeriadau’r gorffennol yn cael eu hailadrodd, ac yn gofyn a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymgynghoriadau ystyrlon gyda chleifion cyn rhoi unrhyw newid mawr ar waith, ac ymateb yn gadarnhaol i bryderon cleifion. Maent yn tynnu sylw at sylwadau am Gymru yn adolygiadau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o ansawdd gofal iechyd y DU ar gyfer 2016, yn galw am arweiniad canolog cryfach gan y Gweinidog.