<p>Recriwtio Meddygon</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:11, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae bwrdd iechyd lleol Cwm Taf yn dweud wrthyf eu bod yn cau Meddygfa Horeb yn Nhreorci gan na allant ddod o hyd i feddyg teulu arall i weithio yno; mae’r meddyg teulu sydd yno ar hyn o bryd yn mynd i weithio yn rhywle arall ar ôl ymbil ar y bwrdd iechyd am gymorth. Mae un o’r gweithwyr yn gweithio yn y feddygfa am ddim ar hyn o bryd er mwyn helpu ei chydweithiwr. Mae enw da’r bwrdd iechyd wedi dioddef ymhlith meddygon teulu yn sgil y ffordd y maent wedi ymdrin â sefyllfa Meddygfa Horeb, a bydd hynny heb os yn effeithio ar eu gallu i ddenu meddygon teulu i’r ardal yn y dyfodol. Nawr, yn gynharach, roeddech yn cwestiynu’r angen am 400 o feddygon teulu newydd; dyna’r ffigur sydd wedi ei nodi. Os nad 400 o feddygon teulu, faint rydych chi’n credu sydd eu hangen arnom i oresgyn y problemau hyn? Pa gyfrifoldeb rydych chi’n ei gymryd fel Gweinidog iechyd am y diffyg cynllunio gweithlu, ac am y prinder meddygon teulu, sydd wedi arwain at y penderfyniad hwn? A ydych yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am gau’r feddygfa hon yn Nhreorci?