Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mae adeiladu Cylchffordd Cymru yn gyfle gwych nid yn unig i Gymoedd De Cymru, ond hefyd i Gymru yn fwy cyffredinol. Felly, mae’n newyddion siomedig heddiw; rwy’n meddwl nad oes dianc rhag hynny. Ond rwy’n gobeithio y bydd prosiect Cylchffordd Cymru yn dal i fod yn brosiect cyffrous a all gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer denu buddsoddiad a chreu swyddi yn yr ardal.
Amcangyfrifwyd y byddai’r prosiect yn creu 6,000 o swyddi amser llawn yn amrywio o waith ymchwil a datblygu i letygarwch, yn ogystal â 3,000 o swyddi adeiladu pellach. Nodaf eich sylwadau yn eich datganiad heddiw yn hynny o beth, ond addawyd y byddai’r swyddi hyn yn cael eu darparu ar gyfer y bobl leol. Mae’r prosiect hefyd wedi addo lleoliadau hyfforddi a darparu cryn dipyn o uwchsgilio yn y rhanbarth hefyd, ac wrth gwrs, mwy o gyfleoedd i dwristiaid yn ogystal—gan ddarparu £15 miliwn amcangyfrifedig i hybu’r economi leol a rhanbarthol. Felly, mae penderfyniad heddiw yn destun gofid, yn enwedig ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu newydd i reoli’r broses o adfywio Cymoedd De Cymru a phan fo cynghorau lleol wedi mynegi parodrwydd i gyfrannu at y cynllun hefyd. Deallaf fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gorfod bod yn ofalus wrth wario arian cyhoeddus. Cytunaf yn llwyr â’r cysyniad hwnnw, ond ar yr un pryd, rhaid cydnabod y bydd rhoi’r prosiect hwn o’r neilltu, o bosibl, o’r haf ymlaen yn ergyd enfawr i’r rhanbarth. Ni ellir dianc rhag hynny.
Nawr, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhellion cychwynnol, oherwydd y risg annerbyniol, a gaf fi ofyn y cwestiwn—nid wyf yn meddwl eich bod wedi ateb hwn yn llawn—y gofynnodd llefarydd Plaid Cymru ynglŷn â pha bryd y cyflwynwyd y risg 50:50 i’w danysgrifennu i’r datblygwr? Rwy’n meddwl bod cwestiynau yma ynglŷn â pha bryd y cyflwynwyd hynny i’r datblygwr, pam na roddwyd gwybod i’r datblygwyr am hyn ar gam llawer cynharach, pam mai yn awr y mae’n ymddangos bod hyn wedi’i gyflwyno. Efallai y gallwch ddarparu rhywfaint o eglurder ar hynny.
Fe sonioch yn eich datganiad hefyd fod ansicrwydd yn y wlad o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n derbyn hynny hefyd. Ond a ydych yn awgrymu efallai y gallai’r penderfyniad fod wedi bod yn wahanol pe bai canlyniad y refferendwm yn wahanol? Mae yna awgrym bach o hynny ac efallai y gallech egluro hynny hefyd.
Fe ddywedoch yn eich datganiad heddiw eich bod wedi cyfarfod â’r datblygwyr y bore yma neu heddiw, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech sôn wrthym o bosibl ynglŷn â’r hyn a drafodwyd gennych yn y cyfarfod hwnnw gyda golwg ar amserlen ar gyfer pryd y disgwyliwch i’r datblygwyr ddarparu cynlluniau ac argymhellion diwygiedig i chi. Mae’n rhaid i ni dderbyn y posibilrwydd hefyd wrth gwrs, ac rwy’n siŵr y byddwch chithau’n derbyn hynny hefyd, efallai na fydd y prosiect yn digwydd o ran hynny, oherwydd, yn amlwg, gyda’r cyhoeddiad heddiw, efallai fod rhywfaint o ansicrwydd ymhlith cefnogwyr posibl nad yw’r prosiect hwn mor gynaliadwy ag yr oedd yn wreiddiol. Felly, gyda hynny mewn golwg, efallai y gallech amlinellu pa gynlluniau adfywio y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i hybu adfywio ym Mlaenau Gwent a Chymoedd Cymru.
A gaf fi ofyn hefyd beth yw asesiad Ysgrifennydd y Cabinet o’r effaith ehangach ar yr economi leol i fusnesau eraill a fyddai efallai wedi ymrwymo’n flaenorol i sefydlu busnesau newydd o gwmpas safle Cylchffordd Cymru? Yn olaf, a ydych o’r farn—ac rwy’n gobeithio y gallwch roi ateb cadarnhaol i hyn—fod datblygwyr yn debygol o ddod yn ôl gyda chynllun diwygiedig y credwch y byddwch yn gallu ei gefnogi a rhoi cymorth tuag ato, ac y bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen?