Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Rhaid i mi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: os yw’n credu bod yna debygolrwydd cryf y bydd y prosiect yn methu, pam y mae hyd yn oed wedi bod yn cael y drafodaeth hon ers pum mlynedd beth bynnag? Ac onid yw’n wir fod diwydrwydd dyladwy ei Lywodraeth ei hun yn dangos bod galw’r warant yn senario mor annhebygol fel y gellid ei diystyru bron iawn? Oherwydd ei fod yn brosiect cryf; dyna pam. Ceir achos busnes cryf. Ac oherwydd hynny, mae hyn oll yn academaidd, a dylai fwrw ymlaen â’r gwaith a chefnogi’r cynnig hwn mewn ardal o Gymru sy’n crefu am swyddi ac arweinyddiaeth.